'Steddwch - y Diawliaid': Bwydlen Nadolig 1922

  • Cyhoeddwyd
R Williams Parry a rhaglen cinio Nadolig Prifysgol Bangor 1922Ffynhonnell y llun, Y Llyfrgell Genedlaethol/Archif Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Tybed a gafodd R Williams Parry y 'Cwd a smonat gwichiaid' oedd ar fwydlen y British Hotel yn 1922?

Mae hi'n gyfnod y partïon Nadolig i sawl mudiad a chydweithwyr wrth i Ragfyr 25 agosáu.

Y cinio traddodiadol sydd fel arfer ar y fwydlen y dyddiau hyn, gyda thwrci, gŵydd neu dorth gnau yn cael ei gynnig.

Ond union gan mlynedd yn ôl i heddiw, 12 Rhagfyr, fe gynhaliwyd cinio Nadolig Prifysgol Bangor yn y British Hotel, Bangor, gyda bwydlen wahanol iawn.

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hen British Hotel ym Mangor bellach yn lety myfyrwyr

Un aelod o staff adran y Gymraeg oedd yn bresennol y noson honno oedd y Prifardd, R Williams Parry, awdur rhai o gerddi mwyaf poblogaidd y ganrif ddiwethaf fel Yr Haf, Y Llwynog, Eifionydd a cherddi coffa Hedd Wyn.

Ac mi fedrwn ni weld be gafodd o a'i gydweithwyr i'w fwyta gan fod y fwydlen wedi goroesi - ac mae'n rhestr ddifyr a dieithr iawn inni heddiw!

Ffynhonnell y llun, Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Union gan mlynedd yn ôl, roedd staff Prifysgol Bangor yn eistedd i lawr i fwynhau ei cinio Nadolig, a dyma oedden nhw'n ei gael i fwyta.

Ar y fwydlen y noson honno roedd:

  • "Cawl Alban neu Fôn gyda cwnffon ych" i ddechrau.

  • "Cwd a smonat gwichiaid"

  • "Asan frâs wedi rostio"

  • a "Llam rhost a nionod" fel prif gwrs.

I bwdin roedd:

  • "Pwdin cyraintsh"

  • "Tartan 'fala a cwstard"

  • a "Caws a buscuts" i orffen.

Nôl yn 1922 roedd y defodau cyn ac ar ôl y pryd bwyd wedi'u hamserlennu'n ofalus yn nhrefn y noson, oedd i gychwyn am 18:30.

Roedd llwncdestun i'r Brenin, i'r coleg, i'r gwesteion eu hunain, i'r merched, ac i'r aelodau newydd.

R Williams Parry oedd yn gyfrifol am gynnig llwncdestun i'r merched,

Ac ar ddechrau'r fwydlen, roedd gorchymyn i'r gwesteion: "Steddwch - y Diawliaid".

Ar ddiwedd y noson fe wnaeth yr holl aelodau oedd yn bresennol arwyddo cefn y fwydlen, ac mae enw R Williams Parry mewn pensel ymhlith y llofnodion hynny.

Ac ar ddiwedd y pryd bwyd roedd pawb yn bloeddio "Codwch - y Diawliaid!".

Ffynhonnell y llun, Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor