Yr arwerthwr adnabyddus David Rogers Jones wedi marw

  • Cyhoeddwyd
David Rogers Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd David Rogers Jones ei gwmni ei hun, gyda'i wraig, yn 1992

Mae'r arwerthwr o Fae Colwyn, David Rogers Jones, wedi marw yn 80 oed yn dilyn salwch byr.

Cafodd ddiagnosis o ganser ychydig ddyddiau ar ôl ei ben-blwydd yn 80 oed ym mis Hydref, ond roedd yn dal i weithio tan y diwedd.

Roedd yn adnabyddus fel arbenigwr ar hen bethau a gwaith celf Cymreig, a chyfrannodd droeon i raglenni radio a theledu yn Gymraeg a Saesneg.

Sefydlodd ei gwmni prisio ac arwerthu Rogers Jones & Co, gyda'i wraig Margaret ym Mae Colwyn yn 1992.

Mae eu meibion John a Ben hefyd yn rhan o'r cwmni, a bellach mae ganddynt swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin.

Dywedodd Ben fod eu tad yn caru ei waith, yn enwedig yr ochr arwerthu.

Cynhaliodd ei ocsiwn gyntaf ym Mhorthaethwy yn 1962, a'i olaf tua pedair blynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Rogers Jones yn dal i weithio tan yn ddiweddar iawn

"Does 'na ddim llawer o arwerthwyr wedi cynnal mwy o ocsiynau ac wedi gwerthu mwy o eitemau na dad. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw un yng Nghymru'n dod yn agos," meddai ei fab, Ben.

"Roedd o wrth ei fodd efo'r elfen theatrig o ocsiwnïa, ond doedd o ddim yn un am ddangos ei hun, dim gwasgod ffansi nag unrhyw 'stumiau.

"Roedd yn dod ag elfen o gynhesrwydd i'w arwerthiannau trwy hiwmor ac agosatrwydd gyda'r prynwyr.

"Fydda fo ddim wedi bod yn ddyn ar gyfer tai ocsiwn crand Llundain, ond fo oedd y dyn ar gyfer ocsiwnïa yng Nghymru i'r Cymry. Roedd o fel pe bai'r rôl wedi ei chreu ar ei gyfer ac yntau ar ei chyfer hithau."

'Trin pawb yn garedig a bonheddig'

Yn cofio amdano ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr actor Mici Plwm ei bod yn "newyddion hynod drist ein bod wedi colli David".

"Wrth fy modd pob amser cael sgwrs hynod ddifyr am eitemau oedd ar werth - fe fyddai ei agosatrwydd a'i gymwynas a'i gyngor parod yn gwneud imi glosio ato pob amser," meddai.

"Fe fyddai yn trin pawb yn garedig a bonheddig iawn - os yn delio mewn swm nobl o arian neu ychydig geiniogau."

Wrth roi teyrnged ar raglen y Post Prynhawn dywedodd yr arwerthwr o Abergele, Prys Jones: "Roedd ganddo'r ddawn i blesio'r gwerthwr a'r prynwr, ac mae hynny'n rhywbeth prin ofnadwy.

"Roedd o'n feistr ar ei waith, bydd colled aruthrol ar ei ôl."

Mae'n gadael ei wraig, Margaret, eu plant John, Ben, a Shan, yn ogystal â phump o wyrion a wyresau.

Pynciau cysylltiedig