Llun o'r Wyddfa 'dafliad carreg' o Aberystwyth!

  • Cyhoeddwyd
Yr Wyddfa tu ol i Constitution Hill, AberystwythFfynhonnell y llun, Scott Waby
Disgrifiad o’r llun,

Yr Wyddfa o Aberystwyth, Rhagfyr 12, 2022

Wrth i ffotograffwyr heidio allan yr wythnos yma i fanteisio ar yr amodau clir a'r golygfeydd tlws o'r eira mae na luniau trawiadol o Gymru wedi eu postio ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y llun yma gan Scott Waby o'r Wyddfa fel pe bai ond dafliad carreg o dref glan môr Aberystwyth.

Mae'r ffordd mae wedi tynnu'r llun yn gwneud i orsaf trên bach Constitution Hill - Craig-glais yn Gymraeg - ymddangos fel pe bai wedi ei leoli bron ar lethrau'r Wyddfa!

Mae Scott wedi esbonio sut gafodd yr effaith: "Fe dynais i'r llun o gofeb Wellington ar Ben Dinas ger Aberystwyth.

"Defnyddiais lens 600mm i ddod â'r blaendir a'r cefndir at ei gilydd.

"Mae tynnu llun Constitution Hill o ychydig dros filltir i ffwrdd gan ddefnyddio lens teleffoto yn gwneud i'r adeiladau ymddangos yn fawr yn y ffrâm. Mae hyn yn cywasgu'r persbectif, gan wneud i'r mynydd (sydd tua 45 milltir i ffwrdd) ymddangos yn fwy ac yn agosach na mae mewn gwirionedd.

"Mae'n effaith optegol cyffredin sy'n fwy amlwg yn yr achos yma oherwydd hyd ffocal hir iawn y lens."

Hefyd o ddiddordeb:

Oriel: Eira, rhew a thywydd oer

Llun o'r Wyddfa… o Iwerddon!

Yr Wyddfa... 3.30am