Dyn yn ei 80au wedi marw mewn gwrthdrawiad 4x4 ger Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
PentrecelynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar un o'r ffyrdd gwledig o amgylch Pentrecelyn

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd wledig ym Mhentrecelyn ger Rhuthun fore Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 11:15 yn dilyn adroddiad fod cerbyd 4x4 amlbwrpas wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Cyhoeddodd y gwasanaethau brys fod y dyn, oedd yn ei 80au, wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad, ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig