Gwreiddiau'r Cymry: 'Deuoliaeth o dristwch a balchder'
- Cyhoeddwyd
Mae Richard King yn awdur sy'n wreiddiol o Gasnewydd, ond yn byw yn Y Gelli ym Mhowys ers dros 20 mlynedd.
Roedd ei rieni yn athrawon ac fe gafodd ei fagu ar aelwyd llawn llyfrau - dyna ble dechreuoedd ei berthynas ag ysgrifen, ac yn hwyrach ei siwrne i fod yn awdur.
Yn ei lyfr diweddaraf Brittle with Relics; A History of Wales 1962-1997, mae Richard King yn trafod pob math o agweddau o hanes Cymru dros gyfnod ble cafodd y genedl ei thrawsnewid.
Ar gyfer y llyfr fe wnaeth King gyfweld â dwsinau o Gymry adnabyddus; Neil Kinnock, Michael Sheen, Leanne Wood, Dafydd Iwan, David R Edwards a Rowan Williams i enwi ond rhai.
Cafodd Cymru Fyw y cyfle i holi Mr King am ei gefndir, yr hyn a ddysgodd tra'n sgwennu'r llyfr, ac be' mae'n feddwl am sefyllfa bresennol Cymru.
Pwy oedd rhai o dy hoff gyfweliadau wrth ymchwilio ar gyfer y llyfr?
'Nes i fwynhau y sgyrsiau gyda'r cyfranwyr i gyd. Ond mi fyswn i'n nodi y trafodaethau ynglŷn â streic y glöwyr yn ne Cymru a gweithredoedd Cymdeithas yr Iaith. 'Nes i ffeindio gwydnwch y cymunedau yma a'r graddau o gydraddoldeb rhyw yn y gweithredoedd yma'n hynod o ysbrydoledig.
Fe wnes i gyfweld â David R Edwards dair gwaith. Ar bob achlysur roedd yn broses eitha' cymhleth, gyda Pat Morgan yn dal dau neu dri ffôn i ni gysylltu. Er i'r sgyrsiau 'ma ddigwydd yn ystod cyfnod clo Covid-19, roedden nhw rhywsut yn teimlo fel trefniadau naturiol a hyfryd i Datblygu. Roedd David yn fyfyriol yn yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn anffodus bu farw yn fuan wedi'r cyfweliad olaf. Rwy'n trysori y sgyrsiau gafon ni.
Er iddo leisio ei farn yn gryf ar yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig, gyda rhywfaint ohono'n antediluvian (hen ffasiwn iawn), roedd Neil Kinnock yn ddymunol a chyfeillgar a doedd ganddo ddim yr ego arwynebol sydd gan lawer o wleidyddion. Roedd yr hyn roedden ni yn ei drafod yn amlwg o bwys iddo.
'Nes i hefyd gyfweld Dafydd Iwan dair gwaith. Ar un achlysur mewn tafarn yng Nghaernarfon. Roedd pobl yn dod ato a gofyn iddo ganu. Roedd hyn ar ddechrau 2020, Duw a wŷr sut mae hynna iddo erbyn nawr!
Pa agweddau ti'n ystyried mwyaf diddorol am Gymru rhwng 1962 a 1997?
Roedd dysgu am yr adnoddau hael a'r amodau gwaith mewn llefydd fel purfa olew BP Llandarcy ar ddechrau'r 1960au a safleoedd diwydiannol mawr eraill yn agoriad llygaid. Fel rhywun â dyfodd fyny yn ne Cymru yn yr 1980au roedd yn anodd peidio â meddwl am yr anobaith yn y cymunedau yma, a meddwl am yr hanes llewyrchus oedd i'r llefydd 'ma cyn hyn.
Roeddwn i hefyd yn gweld y gwaith gan Cymdeithas yr Iaith a mudiadau eraill i ddatrys yr argyfwng tai tragwyddol yn ddiddorol iawn. Roeddwn yn hapus iawn i ddysgu ein bod ni yn aml iawn wedi taclo'r materion yma ar lawr gwlad yng Nghymru.
Oedd 'na agweddau o'r ymchwil oedd yn dy wneud yn drist neu'n falch o dy wreiddiau?
Dwi'n dychmygu bod mwyafrif o bobl Cymru'n profi'r ddeuoliaeth o dristwch a balchder am eu gwreiddiau. Mae'n ymddangos mai hyn ydy ein cyflwr emosiynol default ni. Dwi'n hynod o falch o ddod o gymuned o löwyr Cymraeg ar ochr fy nheulu oedd o Ddyffryn Aman.
Roedd fy nhaid ac eraill o'i genhedlaeth yn rhan o'r llyfrgelloedd 'pithead', a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Mae'r bwrlwm cymdeithasol oedd yn y mudiadau yma a phwysigrwydd yr Neuaddau Lles a Sefydliadau'r Gweithwyr ym mywyd bob dydd yn y cymunedau glo yn destun balchder aruthrol, ond mae adlewyrchu ar y ffordd y diriwiyd yr egni 'na, a pha mor gyflym, yn creu digalondid enbyd ynof i.
Mae fy malchder o gael fy ngeni a 'magu yng Nghasnewydd a fy nghariad at y llefydd ar y ffîn yn ymylu ar fod yn anhwylder seicolegol difrifol. 'Nes i siarad efo pobl oedd yn teimlo yr un peth am Flaenau Ffestiniog, Yr Wyddgrug a Llŷn. Mae dinasoedd yng ngogledd orllewin Lloegr fel Manceinion, Lerpwl a Sheffield i'w weld yn gallu creu balchder dinesig sy'n bendant a chydlynol.
Yng Nghymru rydyn ni'n cael yr emosiwn yna ar lefel leol iawn ac am y gorffennol, dydyn ni ddim yn gallu cytuno ar naratif gyffredin amdanom ni ein hunain. Fyswn i'n dadlau fod y mater yna'n cael ei drin bellach i ryw raddau - enghraifft o hyn yw polisïau cynhwysol strwythur prisiau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.
Be wnes di ddysgu am Gymru a dy hunaniaeth dy hun tra'n sgrifennu'r llyfr yma?
'Nes i ddysgu bod 'na ddim ffasiwn beth ag un hunaniaeth Gymreig, ac mae hyn yn wir o'r holl agweddau o be ni'n galw'n Gymreig. Mae teulu Somali yn Butetown yr un mor Gymreig a neb arall. Yn y llyfr dwi'n trio cyfleu hyn, hyd yn oed o fewn yr ymgyrchoedd dros arbed y Gymraeg, roedd dadl ynglŷn â beth sy'n gwneud rhywun yn Gymro neu Gymraes.
Roedd y rhaniadau a'r gwrthgyferbyniadau o fewn mudiad fel Adfer yn hynod ddadlennol ar hyn. Dwedodd Gwyn Alf Williams, un o haneswyr mawr Cymru, rhywbeth fel 'Os rydych chi'n teimlo'n Gymreig mi rydych chi'n Gymreig'.
'Nes i hefyd ddysgu bod hanes Cymru wedi ei ddal nôl oherwydd ei absenoldeb yng nghwricwlwm ysgolion, ac mae yn hytrach yn cael ei ddadlau drosto gan bobl a sefydliadau cenedlaethol hunan-bwysig. Dydy'r trefniant yma heb wneud dim i helpu ein hyder, nac ein dealltwriaeth o pwy ydyn ni.
Am lawer o'r cyfnod dwi'n ei drafod yn y llyfr rydyn ni'n rhagori mewn ffraeo ymysg ein gilydd, yn enwedig am le y Gymraeg o fewn Cymru, i'r pwynt bron nad oedd angen i San Steffan ein trin ni gyda 'divide and rule', am ein bod ni'n gwneud cystal job ar greu rhwygiadau ein hunain.
Pan mae'n dod i hunaniaeth, ges i'n magu gyda llun Salem yn nhai ochr Gymraeg fy nheulu. Nes i ddysgu llawer tra'n ymchwilio i'r llyfr ynglŷn â'r syniad o barchusrwydd. Roedd llawer o weinidogion ar ochr yna fy nheulu - yn bennaf o gapel yr Annibynwyr. Nes i ddysgu fod bod yn barchus wedi rheoli eu bywydau, a'u teuluoedd hefyd, gan gynnwys sut roeddent yn cerdded a siarad yn gyhoeddus. Mae'n gyfuniad diddorol o eisiau cael eich gweld yn well-to-do, ond eto i beidio bod above your station mewn unrhyw ffordd.
Mi fydd fy hunaniaeth bersonol i wastad yn cael ei ddiffinio gan y ffaith imi beidio cael fy magu'n siarad Cymraeg. Dwi'n teimlo gwacter mawr am y peth, ond wrth sgwennu'r llyfr 'ma dysgais bod y teimlad o absenoldeb yma'n agwedd o 'mywyd i a llawer iawn o bobl eraill.
Wyt ti'n obeithiol am ddyfodol Cymru? Yn ddiwylliannol, economaidd ac yn y blaen (gan ystyried canlyniadau cyfrifiad 2021).
Dwi'n teimlo bod rhaid bod yn optimistaidd achos weithiau hynny yw'r cwbl sydd gennym ni. Mae hyn wedi bod yn wir am Gymru yn hanesyddol yn aml. Rwy'n meddwl efallai ein bod wedi darganfod ffurf ysgafn o hunan-bendantrwydd, y math oedden ni'n cefnu arno yn y gorffennol. Ysgogwyd hyn gan ymateb y Senedd i'r pandemig, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi mwy o ymdeimlad o hyder yn ein hunain i'r bobl sydd mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Yn economaidd mae'r sefyllfa yng Nghymru yn anodd iawn; mae'r status quo yn amlwg yn anghynaladwy, ond mae unrhyw ddyfodol sy'n golygu mwy o annibyniaeth ariannol yn hynod o heriol.
Dim ond opsiynau cyfyngedig sydd ddim yn ddelfrydol sydd ar gael. Mae gennym ni'n dal 'brain drain' o hyd o bobl ifanc, a mewnfudiad o bobl sydd wedi ymddeol i Gymru. Nid yw poblogaeth sy'n heneiddio gyda chyllidebau gwael i gynnal seilwaith a gwasanaethau iechyd yn fy llenwi ag optimistiaeth.
Mae sefydliadau cymunedol sy'n cynhyrchu eu hynni eu hunain a harneisio ein hadnoddau naturiol, y mae sawl un ohonynt yng Ngwynedd er enghraifft, yn rhoi ymdeimlad Cymreig iawn o obaith i mi. Yn ein glaw a'n gwynt llwyd mae'r dyfodol!
Hefyd o ddiddordeb: