Amodau rhewllyd yn parhau i achosi trafferthion

  • Cyhoeddwyd
Ffordd rewllyd yn AberystwythFfynhonnell y llun, Seashaw | BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhybudd rhew newydd mewn grym ddydd Sul rhwng 03:00 y bore a 14:00 y prynhawn

Mae heddluoedd yn rhybuddio gyrwyr i bwyllo wrth deithio wrth i rannau helaeth o Gymru weld rhew, glaw, eirlaw ac eira.

Mae Heddlu'r Gogledd a Heddlu Gwent wedi ymateb i ddamweiniau yn sgil yr amodau rhewllydd, a arweiniodd at orfod cau'r B4354 ger safle Hufenfa De Cymru yn Chwilog, Gwynedd a ffordd ym mhentref Cendl, ger Glynebwy.

Dywedodd Heddlu'r De fore Sadwrn y dylai pobl ond gyrru "os yw'n wirioneddol angenrheidiol" gan fod amodau ar y ffyrdd mor wael.

Roedd yna rybudd tebyg gan Heddlu Dyfed-Powys a ddywedodd fod y ffyrdd "yn beryglus ar hyn o bryd".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heddlu Dyfed-Powys Police

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heddlu Dyfed-Powys Police

Daeth rhybudd melyn am rew dros nos - oedd mewn grym ymhob rhan o Gymru heb law am Ynys Môn ac arfordir y gorllewin - i ben am 12:00 ddydd Sadwrn.

Gan fod meysydd pêl-droed eisoes wedi rhewi, fe benderfynwyd ddydd Gwener i ohirio gemau Wrecsam a Chasnewydd ddydd Sadwrn ynghyd ag amryw o gemau'r Cymru Premier nos Wener.

Bydd rhybudd melyn pellach am rew yn dod i rym ar draws Cymru gyfan ddydd Sul, rhwng 03:00 a 14:00 y prynhawn, a allai effeithio ar drafnidiaeth.

Er bod disgwyl ond awr neu ddwy o eirlaw neu eira ar dir isel cyn iddo droi'n law, fe fydd yn syrthio ar dir, ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo sydd eisoes wedi rhewi.

Mae disgwyl gwyntoedd cryf hefyd ar dir uchel.

Ffynhonnell y llun, Gavin Brown
Disgrifiad o’r llun,

Rhew ym marina Bae Caerdydd ddydd Gwener

Oriau wedi i'r rhybudd rhew yn dod i ben fe fydd rhybudd melyn am law yn dod i rym yn rhannau deheuol y wlad - rhwng 18:00 nos Sul a 06:00 ddydd Mawrth.

Fe fydd yn effeithio ar ardaloedd yn siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Mynwy, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae disgwyl i rai o'r cawodydd fod yn drwm iawn, gyda hyd at 50 mm o law yn gyffredinol, a 70-90 mm yn bosib o'r de mewn mannau uchel.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd pryder wedi adroddiadau bod plant ifanc wedi cael eu gweld yn chwarae ar un o byllau rhewedig Y Cendl

Ddydd Gwener fe rybuddiodd y gwasanaethau brys a chynghorau sir i blant rhag mynd yn agos at lynnoedd a phyllau wedi rhewi.

Fe gyhoeddodd Ysgol Idris Davies yn Abertyswg, Sir Caerffili neges frys ar gyfer rhieni wedi i nifer o blant gael eu gweld yn cerdded ar bwll rhewllyd.

Roedd yna neges debyg gan Heddlu Gwent yn dilyn "adroddiadau o bobl ifanc yn chwarae ar y pwll rhewedig" yn y Cendl.

Mae'r llu'n "erfyn ar bawb i ddeall y peryglon ynghlwm â dŵr rhewedig ac yn croesawu.

Roedd nifer o ysgolion ar gau ddydd Gwener hefyd oherwydd yr amodau rhewllyd, yn bennaf yng Ngwynedd.

Pynciau cysylltiedig