Hwb i obeithion cymuned Llandyrnog i brynu ei siop leol
- Cyhoeddwyd
Gyda hanesion cyffredin o siopau a thafarndai yn cau ar draws y wlad, mae sawl cymuned bellach wedi troi at berchnogi adeiladau o'r fath eu hunain.
Y pentref diweddaraf sy'n gobeithio gwneud hynny ydy Llandyrnog yn Nyffryn Clwyd, ac maen nhw wedi cael hwb mawr i'w gobeithion yn ddiweddar.
Mae'r fenter yno wedi derbyn £200,000 o Gronfa Perchnogaeth Cymunedol Llywodraeth y DU i brynu hen siop y pentref.
Fe welodd pentrefwyr fod y siop - sydd wedi bod yno ers 180 o flynyddoedd - ar werth yn gynharach eleni, ac aethon nhw ati i geisio ei phrynu.
'Colled enfawr i'r pentref'
"[Fe wnaethon ni] weld y siop a Swyddfa Bost y pentref wedi dod ar y farchnad ym mis Mawrth eleni," meddai un o'r rheiny sy'n gyfrifol am y prosiect, Emyr Morris.
"Mi gaeodd y siop ddechrau Covid, felly roedden ni'n gweld colled enfawr i'r pentref, bod pobl yn methu cael y siawns i siopa'n lleol.
"Roedden ni'n gwybod bod 'na gynlluniau eraill wedi bod mewn pentrefi eraill, a meddwl 'be fedrwn ni wneud yn Llandyrnog?'"
Bu tua 60 o wirfoddolwyr yn helpu i gynnal gweithgareddau dros yr haf er mwyn codi arian i brynu'r siop.
Mae Llandyrnog wedi colli dwy dafarn, cigydd a hufenfa eisoes yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r siop wedi bod ynghau am ddwy flynedd a hanner bellach.
'Lle i bobl gymdeithasu'
"'Dan ni am ailagor y siop, cadw'r Swyddfa Bost, ond hefyd mae ganddon ni syniad o roi hwb coffi o fewn y siop," meddai Mr Morris.
"Mae hwnnw'n mynd i roi lle i bobl leol gymdeithasu a chael cyfle i atal unigrwydd, a lle i bobl gyfarfod ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd."
Mae'r fenter yn gobeithio gallu bod yn berchen ar yr adeilad yn y gwanwyn, ac mae gobaith hefyd fod rhagor o grantiau ar y ffordd.
Byddai hynny'n talu am adnewyddu'r adeilad, gyda'r nod o ailagor y siop fel menter gymunedol mor fuan â phosib wedi hynny.
"'Dan ni wedi cael £200,000, sy'n swm sylweddol iawn, a 'dan ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth 'dan ni wedi'i gael," meddai Mr Morris.
"Mae ganddo' ni 'chwaneg o arian i ddod i mewn - mae ganddon ni grantiau eraill 'dan ni wedi gofyn amdanyn nhw, a fydd gobeithio yn dod i mewn yn y flwyddyn newydd."
Cyfle i brynu siâr
Mae'r fenter hefyd yn bwriadu rhoi cyfle i bobl brynu siariau cymunedol yn y siop, fel sydd wedi digwydd gyda mentrau cymunedol eraill.
"'Da ni'n bwriadu yn y flwyddyn newydd gwneud cyfranddaliadau cymunedol, fydd yn gyfle i bobl brynu siariau," medd Mr Morris.
"Bydd hynny'n rhoi arian i mewn, ond yn fwy pwysig fe fyddan nhw'n shareholders yn y busnes, a bydd ganddyn nhw lais yn sut mae pethau'n gweithio yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021