Pen-blwydd Hapus Radio Glangwili!
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Nadolig eleni, bydd gorsaf radio Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn dathlu hanner canrif ers eu darllediad cyntaf.
Mae llywydd presennol yr orsaf, y darlledwr ac un o gewri'r byd radio, Sulwyn Thomas, wedi bod ynghlwm â'r fenter ers y cyfnod hwnnw.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag o i glywed mwy o'r hanes.
Arloesi
Roedd yr orsaf wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ers 1969. Erbyn 1972, roedd grŵp bychan yn gweld bod galw am ddarllediadau byw yn yr ysbyty, ac cafodd un rhaglen ei darlledu'n fyw yn y flwyddyn honno o un o'r wardiau. Yn dilyn llwyddiant yr arbrofion hyn, agorwyd Radio Glangwili ym mis Rhagfyr.
Fel eglurodd Sulwyn, roedd y cyfnod hwnnw'n un llewyrchus i orsafoedd radio bychain ar hyd a lled y wlad: "Roedd pirate radio yn ffasiynol. Fe oedd pobl yn chwarae a gwrando ar Radio Luxembourg, ac eisiau bod yn disc jockeys. Er hynny, fe wnaethon ni drio bod yn fwy na gorsaf oedd yn chwarae recordiau yn unig. O'n i o'r dechrau isie iddo fe fod yn rhyw fath o radio cymunedol."
Nid Radio Glangwili oedd y gorsaf cyntaf o'i math yn lleol, roedd gorsafoedd yn bodoli yn ysbytai Singleton a Treforys yn barod. Fe dderbyniodd yr orsaf newydd gymorth a chyngor gan Radio City yn Abertawe, a chafwyd ymgyrch i godi arian am gyfarpar darlledu syml.
Rhoddodd yr ysbyty hawl iddyn nhw ddefnyddio cwpwrdd bychan i ddarlledu'r rhaglenni, a thrwy hyn oll, roedd yr orsaf yn barod i hawlio'r tonfeddi.
O'r dyddiau cynnar, Radio Glangwili yn arloesi.
Meddai Sulwyn: "Doedd 'na ddim llawer iawn wedi gwneud rhywbeth yn Gymraeg. Fe oedd radio yn Ysbyty Bronglais cyn ni, ond darlledu gemau pêl-droed oedden nhw, nid radio fel y cyfryw. Fe aethon ni gam ymhellach."
Enwau mawr yr orsaf fach
Ar hyd y blynyddoedd, mae enwau cyfarwydd wedi darlledu ar yr orsaf. Yn ogystal â Sulwyn ei hun, mae unigolion eraill fel Richard Rees ac Angharad Mair wedi mynd ymlaen i'r byd darlledu proffesiynol.
Roedd yr orsaf yn rhoi cyfle feithrin crefft mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol, ond roedd yn fwy na chyfle i ddatblygu sgiliau y tu ôl i'r meicroffon yn unig: "Mewn ffordd, doedd rhywun ddim yn gorfod poeni'n ormodol am wneud camgymeriadau, ond wedi dweud hynny fe oedden ni'n trio bod mor broffesiynol â phosib.
"Ond roedd yn fwy na chyfle i fod o flaen meicroffon, roedd o'n gyfle i ddod i 'nabod pobl. Roedd o'n gyfle i ddysgu drwy fynd o gwmpas y wardiau, siarad gyda chleifion, a ceisio eu perswadio nhw i ddewis caneuon ac yn y blaen. Mae 'na lawer iawn o gyn gyflwynwyr wedi dweud wrtha' i bod hynny wedi bod llawn cymaint o fudd iddyn nhw a bod o flaen y meicroffon."
Gwaith caled y gwirfoddolwyr
Er i ambell enw fynd ymlaen i weithio'n broffesiynol, mae degau o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser i'r mentrau gwirfoddol yma, heb feddwl am geisio symud ymlaen.
"Mae 'na bobl wedi dod yn sêr. Ond, mae 'na lwythi o bobl wedi cario 'mlaen i gyflwyno'n wythnosol ar gyfer y cleifion. Mae'n gofyn am rhyw ffordd wahanol o ddelio efo pobl. Mae rhai pobl yn gwneud hyn o wythnos i wythnos heb feddwl am fynd yn ddarlledwyr proffesiynol. Mi allai llawer ohonyn nhw fynd ymlaen, ond dydyn nhw ddim yn dymuno gwneud hynny, maen nhw'n teimlo eu bod yn rhan o wasanaeth."
Datblygu gyda'r oes
Mae llawer wedi newid mewn hanner can mlynedd, yn enwedig ym myd technoleg. Mae'r modd y mae gorsafoedd radio heddiw yn darlledu yn gwbl wahanol i ddulliau 1972.
Erbyn 1975, roedd gwirfoddolwyr yr orsaf yn credu bod angen rhywle mwy na'r cwpwrdd a roddwyd iddynt gan yr ysbyty, ac fe godwyd £4000 er mwyn adeiladu caban pwrpasol fel stiwdio.
Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ar droad y mileniwm, cafodd y dechnoleg ei uwchraddio unwaith eto. Derbyniodd yr orsaf hefyd yr hawl i ddarlledu ar donfeddi FM yn hytrach na thrwy system yr ysbyty yn unig.
Er mai gorsaf wirfoddol ydy hi, mae Sulwyn yn credu ei bod yn allweddol ei bod yn aros ar flaen y gad "Erbyn hyn, mae rhai pobl ifanc yn dod i mewn heb weld record yn eu bywyd, heb brynu CD yn eu bywyd, ac yn sicr ddim wedi gweld tâp.
"Ond, mae eu sgiliau digidol nhw yn ardderchog cyn iddyn nhw ddod i mewn i'r stiwdio. Mae llawer ohonom ni erbyn hyn yn gwneud rhaglenni adref, ac maen nhw'n gallu eu hebostio nhw i mewn i'r stiwdio ac eu chwarae nhw fel 'na. Mae popeth wedi newid!
"Mae gennym ni'r gallu i greu rhaglenni byrion ar gyfer ein system play out nawr. Mae hynny'n golygu nad dim ond cerddoriaeth yn unig sy'n cael eu chwarae ar hap pan nad oes rhaglenni arferol ymlaen. Bydde ni 'rioed wedi dychmygu gwneud rhywbeth fel 'na yn 1972."
Heriau cyfnod Covid
Go brin bod cyfnod arall wedi profi gwerth technoleg cymaint â chyfnod y pandemig. Roedd eu gallu i greu rhaglenni y tu allan i'r stiwdio a'u chwarae ar yr orsaf wedi sicrhau nad oedd yn rhaid i'r gwasanaeth ddod i ben yng nghyfnod Covid.
"Drwy lwc a bendith, ry'n ni wedi creu'r gwasanaeth pedair awr ar hugain yma, a mae posib bwydo'r gwasanaeth yna o tu allan i'r stiwdio. Mae hynny wedi ein hachub ni ac wedi cadw'r orsaf yn fyw."
Wedi dweud hynny, mae Sulwyn yn credu bod elfennau allweddol wedi diflannu yn sgîl y cyfnod.
"I fi, does dim pwynt cael gwasanaeth radio ysbyty heb ein bod ni'n gallu cysylltu gyda'r cleifion. Yn anffodus, oherwydd Covid, dydyn ni ddim wedi gallu mynd ar y wardiau ers peth amser nawr. 'Dy ni'n colli'r cysylltiad yna yn fawr iawn yn fy marn i.
"Rydym ni hefyd yn colli cael pobl ifanc yn dod i mewn am brofiad gwaith. 'Dy ni wedi cael pobl yn dod i mewn i dreulio oriau i ddysgu yn y stiwdio. Mi roddodd Covid stop ar hynny hefyd, ond yn raddol bach, 'da ni'n dod yn ôl i normalrwydd."
Wrth ddychwelyd i'r normalrwydd hwn, mae'r orsaf yn galw am fwy o wirfoddolwyr newydd i sicrhau parhad yr orsaf am hanner can mlynedd arall.
Pen-blwydd Hapus Radio Glangwili!