Cwpan Pencampwyr Ewrop: Montpellier 10-21 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd y Gweilch i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Ewrop mewn dwy flynedd wrth iddyn nhw frwydro i drechu Montpellier o 21-10 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Roedd tîm Toby Booth 14-3 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi ceisiau gan Sam Parry a Keiran Williams.
Ymatebodd Montpellier gyda chais gan Brandon Paenga-Amosa yn yr ail hanner.
Ond fe diriodd Morgan Morris wedyn yn y gornel, ac fe giciodd Owen Williams ei drydydd trosiad yn gywir, i sicrhau buddugoliaeth nodedig i'r Gweilch.