Bachgen, 4, bron â marw wedi iddo lyncu magnetau tegan

  • Cyhoeddwyd
Jude yn sal
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jude yn ddifrifol sâl wedi iddo lyncu 52 magnet bach

Mae mam i fachgen pedair mlwydd oed fu bron â marw ar ôl llyncu 52 magnet bach yn rhybuddio rhieni eraill i fod yn ofalus pa deganau maen nhw'n eu prynu i'w plant.

Bu'n rhaid i feddygon dynnu pendics Jude Foley yn ogystal â thorri ei berfedd mewn pum man gwahanol er mwyn tynnu magnetau oedd wedi mynd yn sownd yn ei gorff.

Yn ôl mam y plentyn, Lyndsey Foley, roedd y profiad 'nôl ym mis Awst eleni yn un dychrynllyd iddi hi ac yn un hynod boenus i'w mab.

"Roedd e'n ofnadwy," meddai. "Yr oll o'n i'n feddwl oedd 'fi'n mynd i'w golli'."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i feddwl ddwywaith cyn prynu'r teganau magnetau bach, neu deganau sy'n cynnwys batris bychain, i blant - mae'r teganau magnet yn medru cael eu troi bron i unrhyw siâp.

Fe ddechreuodd Lyndsey, 34, o Ferthyr Tudful boeni am iechyd ei mab ar ôl iddo gael un salwch ar ôl y llall, dros gyfnod o wyth wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Mam Jude, Lyndsey Foley, yn arddangos y magnetau

Fe aeth hi ag ef i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful pan aeth y boen yn ei stumog yn annioddefol.

Doedd profion gwaed ac archwiliadau y meddygon ddim yn dangos fod unrhyw beth o'i le - tan i un meddyg sylwi ar rywbeth anarferol mewn llun pelydr-x.

"Roedd y doctor yn credu ei fod yn gorwedd ar fwclis," meddai Lyndsey, "ond roeddwn i yn gwybod yn syth mai'r magnets oedden nhw.

"Ac o fewn pum munud roedd yr ysbyty yn trefnu fod ambiwlans yn mynd â ni i'r ysbyty plant yng Nghaerdydd.

"Ro'dd y goleuadau glas ymlaen a phopeth, ac ro'n i mewn panig. Dyna pryd wnes i sylwi fod y sefyllfa yn un ddifrifol."

Oriau o lawdriniaeth

Roedd Lyndsey wedi prynu'r tegan i'w merch wyth oed, Poppy. Mae'n degan sy'n boblogaidd ar hyn o bryd, gyda fideos ar-lein yn dangos sut i greu pob math o siapiau.

Doedd gan Lyndsey ddim syniad fod Jude wedi bod yn llyncu magnet bob hyn a hyn - "un neu ddau, neu dri" dros gyfnod o ddau fis.

"Mi dd'wedodd y llawfeddyg taswn i heb ddod â fe mewn pan wnes i, bydde'r magnets wedi medru lladd Jude. Ro'dd y pethau yn rhwygo wal y perfedd, gan achosi i'r perfedd wenwyno ei gorff."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jude graith fawr wedi'r lawdriniaeth

Roedd disgwyl i'r lawdriniaeth bara tua dwy awr ond roedd hi'n saith awr cyn i'r meddygon gael gafael ar bob un o'r magnetau.

Bu'n rhaid i Jude aros yn yr ysbyty am bythefnos a doedd dim posib iddo fwyta am wythnos gyfan.

"Ro'dd e mewn cymaint o boen," meddai Lyndsey. "Ro'dd y cyfan yn ddychrynllyd iddo ac ro'dd e'n ofnadwy i mi achos do'n i ddim yn cael rhoi cwtch iddo fe achos bod e wedi'i gysylltu i gymaint o bibellau.

"Ond ni'n lwcus nad oes 'na niwed hir dymor i iechyd Jude, ond ro'dd y meddyg wedi rhybuddio ni y gallai Jude fod wedi gorfod cael bag colostomy am weddill ei fywyd pe bai'r llawdriniaeth ddim wedi gweithio."

Mae Lyndsey nawr am rybuddio pobl eraill o beryglon y magnetau.

"Os oes 'da chi y magnets hyn adre yna bydden ni yn cael gwared ohonyn nhw," meddai.

"Maen nhw mor beryglus a rwy' i dal yn teimlo'n euog pan yn meddwl be allai fod wedi digwydd. Byddai ei fywyd e wedi gallu newid achos mod i wedi prynu y tegan hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jude bellach yn gwella wedi'r profiad ym mis Awst 2022

Mae Jude yn dal i gael profion ac mae'n gwella ond mae'r graith pum modfedd o hir ar ei fol yn atgoffa pawb o'r hyn ddigwyddodd.

"Mae Jude wedi dysgu ei wers i beidio rhoi dim yn ei geg," meddai Lyndsey. "A dwi yn fwy gofalus am be' rwy'n brynu."

Dywedodd Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol: "Rydym yn gofyn i rieni feddwl yn ofalus cyn prynu cynnyrch sy'n cynnwys magnetau a batris botwm i'w plant.

"Nid yw teganau magnet bach yn bethau da i lenwi hosan. Dylent bob amser gael eu storio allan o gyrraedd plant bach.

"Daw peryglon tebyg o blant yn llyncu batris botwm hefyd. Dylai rhieni sicrhau bod y blwch batri wedi'i gau'n gywir ac yn ddiogel ar bob tegan cyn ei roi i'r plant."

Pynciau cysylltiedig