Caerdydd: Seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad â lori
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod seiclwr a fu mewn gwrthdrawiad â lori yng Nghaerdydd brynhawn Mawrth wedi marw.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawid toc wedi 16:00 ar Ffordd Lecwydd, a dywed plismyn bod y seiclwr - dyn 65 oed - wedi marw yn y fan a'r lle.
Roedd y lori yn teithio o ganol y ddinas i gyfeiriad Ffordd Sloper.
Mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam i gysylltu â nhw.