Doctoriaid Cymru'n ystyried streicio am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae doctoriaid yng Nghymru yn ystyried mynd ar streic am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd dau o bob tri meddyg ysbyty mewn arolwg gan BMA Cymru y bydden nhw'n fodlon cymryd camau o'r fath, a hynny wedi i nyrsys a staff ambiwlans hefyd fod ar streic yn ddiweddar.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Cymreig y BMA, Dr Iona Collins, fod canlyniad yr arolwg yn "drist i bawb".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn deall teimladau doctoriaid ynglŷn â'r cynnig tâl maen nhw wedi ei gael.
'Doctoriaid yn gadael yn ddistaw'
Dywedodd Dr Collins fod angen "gweithredu nawr" i osgoi sefyllfa ble bydd cleifion yn dioddef am nad yw'r gwasanaeth iechyd "yn cael ei gyllido'n ddigonol".
Daw hyn yn dilyn wythnos ble mae nyrsys a staff y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi bod ar streic, gan alw am gyflogau ac amodau gwaith gwell.
Ym mis Hydref fe gyhoeddodd y BMA y byddai doctoriaid iau yn Lloegr yn pleidleisio ym mis Ionawr i fynd ar streic ai peidio.
Fe gawson nhw godiad cyflog o 2% eleni, ond mae'r undeb sy'n eu cynrychioli yn dweud bod eu cyflogau wedi disgyn o dros chwarter mewn termau real yn y 15 mlynedd ddiwethaf.
Fe wnaeth bron i 1,000 o ddoctoriaid yng Nghymru ymateb i arolwg y BMA wedi i Lywodraeth Cymru gynnig codiad cyflog o 4.5% iddyn nhw, gyda 78% yn dweud eu bod eisiau codiad cyflog oedd o leiaf mor uchel â chwyddiant - sydd dros 10% ar hyn o bryd.
Mewn arolwg blaenorol dywedodd dros hanner aelodau BMA Cymru eu bod nhw'n fwy tebygol o adael y gwasanaeth iechyd os nad oedd eu codiad cyflog nhw yr un mor uchel â chwyddiant.
"Mae doctoriaid wedi bod yn gadael y GIG yn ddistaw ers blynyddoedd, gan leihau'r oriau yn eu cytundebau neu'n gadael yn llwyr," meddai Dr Collins.
"Mae'r rhesymau ariannol dros aros yn y GIG wedi erydu dros y degawd diwethaf."
Ychwanegodd fod newid i'r ffordd mae pensiynau'n cael eu trethu hefyd yn "cosbi" meddygon sydd wedi bod yn gweithio oriau ychwanegol, gan "ddibrisio" eu gwaith.
'Tridiau anodd'
Mae Dr Collins eisoes wedi galw am gyfarfod brys gyda Gweinidog Iechyd Cymru Eluned Morgan i drafod canlyniadau'r arolwg a "chymryd camau brys".
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall" teimladau doctoriaid a bod "pwysau ar holl weithwyr y sector gyhoeddus" oherwydd yr argyfwng costau byw.
"Byddwn yn parhau i weithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth ynghyd i gael y canlyniad gorau posib i weithwyr, wrth barhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r arian sydd ganddyn nhw i roi cynnig cyflog teg i staff y GIG, a'n galluogi ni i wneud yr un peth yng Nghymru," meddai llefarydd.
Daw hyn wrth i gyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons, ddweud bod staff wedi ymdopi "yn well na'r disgwyl" yn ystod y streiciau.
"Mae wedi bod yn dridiau anodd yma," meddai. "Roedd pwysau mawr ar y system y penwythnos diwethaf ac fe wnaethon ni gyhoeddi digwyddiad difrifol ddydd Llun.
"Rydyn ni wedi cael deuddydd o waith hynod o galed gan 19,000 o staff i ofalu am ein cleifion dros y Nadolig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022