Bwrdd iechyd y gogledd yn cyhoeddi 'digwyddiad difrifol'

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhes o ambiwlansys i'w gweld tu allan i adran frys Ysbyty Gwynedd amser cinio ddydd Llun

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi "digwyddiad mewnol difrifol" oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

O ganlyniad, mae pob triniaeth ar wahân i'r rhai mwyaf brys wedi cael eu gohirio.

Dywedodd y bwrdd mewn datganiad fod y galw ar draws y system iechyd dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn "ddigynsail".

Yn ôl y datganiad mae hynny oherwydd feirysau'r gaeaf, rhieni yn ceisio cael cymorth oherwydd pryderon am Strep A ac anafiadau o ganlyniad i'r tywydd oer.

Dywedon nhw fod hyn wedi arwain at oedi sylweddol i weld cleifion, yn enwedig mewn adrannau brys.

Ychwanegodd y bydd streiciau Coleg Brenhinol y Nyrsys ddydd Mawrth a'r Gwasanaeth Ambiwlans ddydd Mercher yn cyfyngu ymhellach ar allu'r bwrdd iechyd i ymateb.

'Cyfnod heriol eithriadol'

"Mae diffyg gwelyau rhydd yn ein hysbytai yn arwain at oedi digynsail ar ambiwlansys ar draws y bwrdd iechyd ac ry'n ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cleifion sy'n ddigon iach i adael ysbytai," meddai'r datganiad.

"Mae pwysau tebyg yn cael ei brofi mewn byrddau iechyd eraill ac ymddiriedolaethau yn Lloegr.

"Y bore 'ma, rydyn ni wedi cyhoeddi digwyddiad mewnol difrifol, sy'n golygu ein bod ni'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r galw sylweddol, estynedig ar y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd yn gyfrifol am ysbytai mawr Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam yn y gogledd

Dywedodd y bwrdd ei bod yn "gyfnod heriol eithriadol", a bod gwaith cynllunio yn parhau er mwyn ceisio sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn gallu gweithredu yn ystod y streiciau.

"Mae trafodaethau gydag undebau yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod digon o staff cymwys ar gael i ardaloedd ble byddai methiant i ddarparu gwasanaethau yn peryglu bywydau yn uniongyrchol.

"Bydd staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau yma ond yn gallu streicio os oes digon o weithlu er mwyn sicrhau diogelwch cleifion."

'Siom ond nid sioc'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George fod y newyddion yn "siom ond nid sioc".

"Dyma'r un hen stori i staff a chleifion y rhanbarth, sydd wedi'u methu gan y ffordd mae'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn rhedeg y GIG," meddai.

Ychwanegodd fod angen i'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan egluro beth yw'r cynllun i fynd i'r afael â'r sefyllfa, "yn enwedig gyda mwy o streiciau gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans ar y gweill".

"Rhaid i gleifion gael hyder y gallan nhw gael mynediad at ofal iechyd diogel - eu trethi nhw sy'n talu amdano," meddai.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "cyflwr ein GIG yn dod yn fwyfwy pryderus".

"Mae staff a chleifion yn dioddef wrth i anghynaladwyedd ein gwasanaeth iechyd a gofal ddod yn fwy amlwg bob dydd," meddai.

"Gall datgan digwyddiad critigol fod yn ddealladwy â phethau mor ddrwg ag y maent yn cael eu disgrifio gan y bwrdd iechyd.

"Ond y cwestiwn yw, pam fod y GIG yn gorfod gweithredu hyd eithaf ei allu a thu hwnt? Allith o ddim."