Teyrnged i seiclwr fu farw wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
John LaurenceFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu seiclwr fu farw mewn gwrthdrawiad â lori yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i ddyn "wnaeth y mwyaf o'i fywyd".

Bu farw John Benedict Laurence, 65, yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Lecwydd ddydd Mawrth am tua 16:00.

Mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau ac mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam i gysylltu â nhw.

Yn dilyn ei farwolaeth cafodd teyrnged ei roi i Mr Laurence, o ardal Rhath y ddinas, gan ei deulu.

"Roedden ni'n ei adnabod fel Ben, ond i lawer mae'n cael ei gofio'n fawr drwy ei lysenw 'Grunt'," medden nhw.

"Fel teulu rydym yn drist tu hwnt i glywed am farwolaeth sydyn Ben.

"Mae wedi wynebu heriau drwy ei fywyd ond cafodd hapusrwydd gyda'i bartner hirdymor Liz am dros 30 mlynedd nes iddi farw sawl blwyddyn yn ôl.

"Ers hynny mae Ben wedi gwneud y mwyaf o'i fywyd, a'i frwdfrydedd pennaf oedd reidio beiciau modur ac ymweld â llefydd newydd.

"Roedd wrth ei fodd gydag antur ac roedd ganddo gymaint o gynlluniau sydd yn awr wedi'u cipio i ffwrdd yn greulon.

"Fe wnaeth lawer o ffrindiau yn ystod ei amser yma, ac rwy'n siŵr mod i'n siarad ar ran pawb pan rwy'n dweud cymaint o golled fydd ar ei ôl. Cwsg mewn hedd."

Pynciau cysylltiedig