Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 34-14 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
taclFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gerdyn coch i Tomas Lezana o'r Scarlets ar ddechrau'r gêm am dacl uchel ar Rhys Davies

Y Gweilch oedd â'r afael drechaf ar y chwarae yn Abertawe ddydd Llun.

O fewn ugain munud bron roedd y tîm cartref wedi cael dau gais (Alex Cuthbert a Luke Morgan) ond doedd y Scarlets ddim am ildio gan i Sione Kalamafoni sicrhau cais ac wedi'r trosiad gan Rhys Patchell roedd y sgôr yn 12-7.

Roedd yna gerdyn coch i Tomas Lezana o'r Scarlets ar ddechrau'r gêm am dacl uchel ar Rhys Davies.

Fe wnaeth y Gweilch ymateb yn gyflym wedi cais y cochion gyda Rhys Webb yn croesi o dan y pyst ac roedd y sgôr ar hanner amser yn 19-7.

Wedi 49 munud pump pwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm wedi i Johnny McNicholl wibio lawr yr asgell am gais.

Ond wedi cic gosb, cais gan Sam Parry a Kieran Williams i'r Gweilch, y sgôr terfynol oedd 34-14.

Pynciau cysylltiedig