Cannoedd yn mentro i'r môr ar Ŵyl San Steffan

  • Cyhoeddwyd
swimmers in seaFfynhonnell y llun, Reuters

Ydi mae'r traddodiad o fynd i'r môr ar Ŵyl San Steffan yn parhau gyda channoedd ar draws Cymru wedi mentro i'r dŵr ddydd Llun.

Fe ddechreuodd yr arfer yn Ninbych-y-pysgod dros hanner canrif yn ôl yn 1970 a fore Llun roedd nifer wedi dod i'r dre i nodi'r pen-blwydd 50.

Cafodd yr arferiad ei ohirio yn ystod Covid.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Llond llaw a fentrodd yn 1970 ond ddydd Llun fe wnaeth cannoedd fentro i'r dŵr gan godi arian i elusen.

Ffynhonnell y llun, REBECCA NADEN/Reuters

Roedd disgwyl i'r digwyddiad ddydd Llun fod yn boblogaidd wedi i'r arferiad gael ei ohirio am ddwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Thema'r digwyddiad eleni oedd 'aur' a hynny i gofnodi'r pen-blwydd hanner cant.

Ffynhonnell y llun, REBECCA NADEN
Ffynhonnell y llun, Reuters

Yn ystod y degawdau mae nofwyr wedi codi dros £300,000 at achosion da.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Eleni roedd nofwyr yn casglu arian at Gaffi Coffa Dinbych-y-pysgod, Sefydliad Dai Rees, Bad Achub Dinbych-y-pysgod a Sefydliad Paul Sartori.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Yn ystod y dydd fe wnaeth nifer ar draws Cymru fentro i'r môr - roedd yna ddegau wedi mentro i'r môr yn Borth ger Aberystwyth.

Roedd nofwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi achub y blaen gan fynd i'r dŵr ar ddydd Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Heulwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Heulwen Davies a Sara Gibson ymhith nofwyr dewr Borth ger Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, Wales news service

Roedd nofwyr Porthcawl hefyd wedi glynu at eu traddodiad arferol gan fynd i'r môr ar ddydd Nadolig - nifer mewn gwisg ffansi gyda rhai, eleni, wedi gwisgo fel coniau atal traffig.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Pynciau cysylltiedig