Rhybuddion llifogydd wrth i law trwm gyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres o rybuddion llifogydd wedi cael eu cyhoeddi wrth i law trwm gyrraedd Cymru.
Daeth rhybudd melyn am law i rym yn rhannau o'r de am 02:00 ddydd Mercher ac mae'n para tan 15:00.
Fe rybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai mannau, gan gynnwys Abertawe a Sir Gâr, weld lefelau uchel o ddŵr ar yr wyneb ac mae hefyd yn rhagweld trafferthion i yrwyr.
Mae yna drafferthion wedi bod i rai yn y gogledd hefyd gyda'r A499 ar gau ger Pwllheli rhwng Penrhos a Llanbedrog.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym mewn 14 o siroedd Cymru - Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o rybuddion, dolen allanol 'byddwch yn barod' ar gyfer nos Fawrth a bore Mercher.
Ar un cyfnod roedd yna rybudd coch mewn grym - y posibilrwydd o lifogydd difrifol - ar gyfer yr A499 rhwng Pwllheli a Phenrhos.
Roedd yna gyngor i bwyllo wrth yrru trwy ddŵr ar yr A4085 yn Rhyd Ddu, yng Ngwynedd, a bu'n rhaid cau un o lonydd yr A55 tua'r dwyrain yn Llanelwy rhwng Cyffyrdd 27 a 27a.