Siom sglefrfyrddiwr am eithrio'r gamp o'i gwrs TGAU

  • Cyhoeddwyd
Osian George
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian George wedi gobeithio y byddai'r gamp yn cael ei derbyn fel un o'r gweithgareddau ar gyfer ei arholiad TGAU addysg gorfforol

Mae sglefrfyrddiwr ifanc o Gwm Gwendraeth yn galw am gynnwys y gamp fel gweithgaredd swyddogol yn yr arholiad addysg gorfforol TGAU.

Mae Osian George, 14, yn ddisgybl yn Ysgol Maes y Gwendraeth ac â'i fryd ar gystadlu yn y Gemau Olympaidd.

Ar ôl ymarfer ers yn chwech oed, mae Osian yn dal i wella'r sgiliau sglefrfyrddio ac yn teithio'n gyson i ganolfannau yn Abertawe a Chaerdydd er mwyn perffeithio'r grefft.

Roedd wedi gobeithio y byddai'r gamp yn cael ei derbyn fel un o'r gweithgareddau ar gyfer ei arholiad TGAU addysg gorfforol, ond ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn bosib.

'Siomedig iawn'

"Roeddwn i wedi gobeithio bydde skateboardio yn gallu bod yn rhan o'r gwaith fi'n 'neud ar gyfer TGAU," dywedodd.

"Rwy wedi bod yn skateboardio trwy fy holl fywyd. Ar y funed dyw e ddim yn cael ei gydnabod ar y maes llafur ac mae hynny'n siomedig iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian yn ymarfer yn gyson a'i uchelgais yw cyrraedd y Gemau Olympaidd

Dywedodd pennaeth Ysgol Maes y Gwendraeth, Wyn Evans: "Gyda'r agwedd ymarferol yn cyfri tuag at hanner y dyfarniad TGAU, yr her wrth gwrs trwy gyflwyno campau newydd neu leiafrifol, yw sicrhau bod yr asesiad mewnol a'r dilysiad allanol gan CBAC o waith ymarferol y disgybl yn deg."

Mae galwadau Osian wedi ennill cefnogaeth yn lleol gyda'r cynghorydd sir, Dai Thomas, yn galw am gynnwys y gamp ar y maes llafur.

"Mae'n siomedig fod y cyd bwyllgor ddim yn gadel i sglefrfyrddio fod yn rhan o'r cwrs TGAU," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Dai Thomas y gallai Osian ddod â llwyddiant i Gymru yn y dyfodol

"Mae wedi bod yn yr Olympics ac mae Osian yn llwyddiannus iawn yn y gamp.

"Fe alle fe ddod â llwyddiant i Gymru yn y dyfodol ac mewn blynydde' i ddod, bydden i'n gobeithio ac yn disgwyl ei weld e'n ennill medalau yn y Gemau Olympaidd."

Edrych ar ehangu

Dywedodd llefarydd o fwrdd arholi y Cyd Bwyllgor Addysg fod gweithgareddau presennol maes llafur addysg gorfforol yn cynnwys nifer o weithgareddau wedi'u seilio ar ymgynghoriad gafodd ei gynnal yn 2015.

Fel rhan o'r cwricwlwm newydd yn 2025 fe fyddan nhw'n edrych ar ehangu rhestr y gweithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Ond mae'n drueni, meddai Mr Thomas, na fydd hynny'n digwydd mewn pryd i Osian.

"Fi yn gobeithio yn wir y byddan nhw yn newid y maes llafur yn 2025, ond y trueni mawr yw y bydd hynny yn rhy hwyr i Osian," meddai.

Ffynhonnell y llun, Kat Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Osian, Kat, yn gwybod pa mor bwysig yw'r gamp i'w mab

Mae mam Osian, Kat, yn dadlau bod ei mab wedi gweithio ers blynyddoedd ar wella ei sgiliau sglefyrddio ac y dylai gael cyfle i ddefnyddio'r sgiliau yna yn ei arholiad, gan ychwanegu'r gamp at restr sydd ar hyn o bryd yn cynnwys bocsio, seiclo, gymnasteg a jiwdo.

"Mae Osian 'di bod yn gweithio ar sglefrfyrddio ers yn fachgen bach, a dyna i gyd ma' fe'n 'neud trwy'r amser," meddai.

"Mae e yn joio a fel 'na fydd e nes bod e un diwrnod, gobeithio, yn 'neud hi mewn i Team GB a'r Olympics."

Fe gafodd sglefrfyrddio ei gynnwys fel camp am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020.

Ar ôl cael ei gydnabod ar lwyfan chwaraeon mwya'r byd, mae Osian George a'i deulu yng Nghwm Gwnedraeth yn gobeithio y gall hefyd gael ei gydnabod mewn arholiadau TGAU yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig