Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru Nos Galan

  • Cyhoeddwyd
glawFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru ar gyfer Nos Galan.

Bydd y rhybudd mewn grym ar gyfer 14 o siroedd rhwng 00:00 a 21:00 ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr.

Daw hynny wrth i dywydd garw a gwyntoedd cryfion achosi trafferthion eisoes i deithwyr ar bob pen o Gymru.

Cafodd yr M48 Pont Hafren ei chau i'r ddau gyfeiriad ddydd Gwener oherwydd y gwyntoedd, yn ogystal â Phont Britannia ar Ynys Môn i rai cerbydau.

'Glaw trwm ar adegau'

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i law trwm ar ddiwrnod olaf y flwyddyn olygu llifogydd mewn rhai mannau, a tharfu i deithwyr.

Mae disgwyl iddo ddisgyn mewn cawodydd "allai ddisgyn yn drwm ar adegau", hyd at 10mm mewn awr.

Gallai dŵr ar y ffordd hefyd olygu gorfod cymryd mwy o amser i gwblhau siwrneau, a bod gwasanaethau bws a thrên yn cael eu heffeithio.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Penybont-ar-Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Pynciau cysylltiedig