Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 19-22 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Y Gweilch oedd yn fuddugol yng ngêm ddarbi gyntaf y prynhawn yng Nghymru, ar Barc yr Arfau, yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Fe dreuliodd y ddau dîm gyfnodau ar y blaen ac roedd yn ymddangos y byddai'r canlyniad yn gyfartal hyd nes dwy gic gosb hwyr dyngedfennol - un llwyddiannus i'r ymwelwyr ac ymgais aflwyddiannus gan y tîm cartref.
Roedd hynny er i Gaerdydd sgorio pwyntiau cyntaf yr ornest - fe fanteisiodd Owen Lane ar gamgymeriad gan Jack Walsh i sgorio cais cyntaf y prynhawn, a gyda throsiad Williams roedden nhw saith pwynt ar y blaen.
Daeth y Gweilch yn gyfartal diolch i gais Sam Parry, cyn i Liam Belcher dirio i roi Caerdydd 12-7 ar y blaen. A dyna oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Wedi'r egwyl, fe groesodd Owen Williams i ddod â'r Gweilch yn gyfartal, ac yna fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf wedi cais gan Dewi Lake.
Gyda'r sgôr bellach yn 12-19 o'u plaid, fe gafodd blaenasgellwr y Gweilch, Ethan Roots ei hel o'r maes am 10 munud.
Ac yn y cyfnod hwnnw gyda'r fantais o un chwaraewr yn ychwanegol tro Caerdydd oedd hi i ddod yn gyfartal gyda chais gan Josh Adams.
Ond gyda Kirby Myhill yn y cell gosb hefyd am dacl uchel roedd y ddau dîm ag 14 o chwaraewyr a buddugoliaeth o fewn cyrraedd i'r naill a'r llall.
Gyda dau funud i fynd ar y cloc, roedd yna gic gosb i'r Gweilch ac fe giciodd Owen Williams yn gywir i'w rhoi dri phwynt ar y blaen.
Roedd cyfle i Gaerdydd achub pwynt gyda chic olaf y gêm - cic gosb wedi sgrym gan Jarrod Evans, oedd eisoes wedi ychwanegu pwyntiau wrth drosi.
Roedd yn aflwyddiannus y tro hwn a'r bêl yn dal yn fyw, ond methiant hefyd oedd ymdrech ei gyd-chwaraewyr i'w thirio.
Y Gweilch aeth â hi felly - y sgôr terfynol oedd 19-22.