Caerdydd: Arestio pedwar ar ôl i ddyn gael ei drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae tri o ddynion a dynes wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerdydd ddydd Calan.
Dydy anafiadau'r dyn 36 ddim yn peryglu bywyd ar ôl yr ymosodiad mewn tŷ ar Stryd Bute yn ardal Trebiwt y ddinas.
Fe dderbyniodd Heddlu De Cymru adroddiadau am y digwyddiad tua 13:30 ddydd Sul.
Dywedodd swyddogion fod tri dyn - 35, 43 a 48 oed - ynghyd â dynes 29 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Cafodd y pedwar eu hebrwng i orsaf heddlu Bae Caerdydd wrth i'r ymchwiliad barhau.