Mwy o gymorth cyfraddau busnes i gwmnïau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd siopau, lleoliadau hamdden, bwytai a thafarndai'n cael mwy o help gyda'u trethi busnes yn y flwyddyn ariannol nesaf, yn dilyn camau tebyg yn Lloegr.

Fe fydd y cymorth ar gyfer y sectorau yma yn codi o 50% i 75% o fis Ebrill.

Mae Cymru hefyd yn dilyn esiampl Lloegr trwy rewi'r gyfradd y mae'n rhaid i gwmnïau ei dalu.

Y nod, medd Llywodraeth Cymru, yw helpu busnesau ddelio â chwyddiant uchel a chostau cynyddol, ac mae'r cam wedi cael ei groesawu gan gynrychiolwyr busnes.

Daw'r cyhoeddiad ar drothwy'r gyllideb ddydd Mawrth, pan fydd Llywodraeth Cymru'n amlinellu ei chynlluniau gwariant ar gyfer meysydd fel iechyd, addysg a llywodraeth leol.

Mae'r weinyddiaeth yn derbyn arian ychwanegol yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU o ran trethi busnes yn Lloegr.

Ni chafodd unrhyw ffigyrau pendant eu cyhoeddi, ond mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd yn amcangyfrif y gallai fod yn £389m dros ddwy flynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd bwytai a thafarndai'n cael mwy o help gyda'u trethi busnes yn y flwyddyn ariannol nesaf

Mae adroddiad y brifysgol ar y gyllideb wedi cwestiynu ai rhagor o gefnogaeth i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yw'r ffordd gywir ymlaen.

Fe nododd bod "llawer iawn o sectorau bregus eraill", gan gynnwys cyrff cyhoeddus a gwirfoddol, hefyd yn wynebu heriau yn sgil biliau ynni cynyddol.

Mae'r pecyn cymorth i gyd yn werth £460m, a bydd hefyd yn helpu busnesau sy'n wynebu trethi uwch wedi i'w heiddo gael eu hail-brisio.

'Llygedyn o newyddion da'

Dywedodd Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru bod y cyhoeddiad "yn hwb i'w groesawu i'r diwydiant mewn cyfnod o bwysau aruthrol".

Yn ôl cymdeithas y cyflogwyr, CBI Cymru, mae'r cyhoeddiad "yn llygedyn o newyddion da dan amodau sydd fel arall yn heriol".

Roedd miloedd o fusnesau, ychwanegodd llefarydd, yn wynebu "cynnydd digynsail o tua 10% yn eu bil treth cyngor ym mis Ebrill" a byddai costau uwch wedi'r ailbrisio yn dod i rym "ar yr adeg gwaethaf posib".

Dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru y bydd y cymorth "yn mynd peth ffordd at liniaru'r pwysau ar fusnesau bach".

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Rydym am i fusnesau wybod yn awr y byddwn yn parhau i weithredu gostyngiadau sylweddol i'w biliau ardrethi, ac y bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu busnesau i ffynnu yn yr amseroedd anodd rydym yn gwybod eu bod yn eu hwynebu."