Rhybudd am law trwm i rannau o Gymru fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Person dan ymbarel yn y nosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y glaw yn effeithio ar bobl yn bennaf yn y canolbarth a'r de

Roedd rhybudd y gallai glaw trwm arwain at lifogydd ac amodau gyrru gwael rhwng hanner nos a 09:00 fore Sadwrn.

Roedd y rhybudd melyn diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd mewn grym ar gyfer rhannau o dde a chanolbarth Cymru.

Dywedon nhw y gallai ambell ardal weld 20-30mm o law dros nos, gyda 50-60mm yn disgyn ar dir uchel.

Yr ardaloedd oedd yn rhan o'r rhybudd oedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.

Mae nifer o rybuddion llifogydd mewn grym, dolen allanol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ledled y wlad hefyd.

Pynciau cysylltiedig