Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 22-28 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dane Blacker sgoriodd y cais cyntaf i'r Scarlets

Llwyddodd y Scarlets i drechu Rygbi Caerdydd mewn gêm wych ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn.

Daeth y cais cyntaf i'r ymwelwyr wedi ychydig funudau'n unig ar y cloc, gyda Dane Blacker yn croesi'r gwyngalch.

Wedi i Lopeti Timani weld cerdyn melyn i Gaerdydd daeth ail gais i'r Scarlets, y tro hwn gan yr asgellwr Johnny McNicholl.

Fe wnaeth Jonathan Davies ychwanegu trydydd cais i'r ymwelwyr, cyn i Taulupe Faletau daro 'nôl i Gaerdydd i'w gwneud yn 10-19 i'r Scarlets ar yr egwyl.

Steff Thomas o'r Scarlets welodd y cerdyn melyn nesaf, a llwyddodd y tîm cartref i gymryd mantais gyda chais gan Rhys Carré.

Sgorion nhw eto trwy Josh Adams i gyfyngu mantais yr ymwelwyr ymhellach, ac er i Aaron Shingler weld cerdyn melyn hwyr i'r Scarlets, roedden nhw eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r fuddugoliaeth.