Cwpan FA Lloegr: Coventry 3-4 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi sicrhau eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth anhygoel oddi cartref yn erbyn Coventry ddydd Sadwrn.
Gyda Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol a Coventry yn y Bencampwriaeth, mae 60 safle rhwng y ddau yn y cynghreiriau.
Cafodd yr ymwelwyr y dechrau perffaith wrth fynd ar y blaen wedi 12 munud, gyda Sam Dalby yn penio croesiad Luke Young i gefn y rhwyd.
Dyblwyd y fantais bum munud yn ddiweddarach pan aeth croesiad Elliot Lee i gornel bellaf y rhwyd heb gyffyrddiad gan yr un chwaraewr arall.
Fe lwyddodd Coventry i daro 'nôl gyda gôl gan Ben Sheaf, cyn i Wrecsam adfer eu mantais o ddwy gôl gyda pheniad gan Tom O'Connor yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.
10 munud i mewn i'r ail hanner fe gafodd Wrecsam gic o'r smotyn wedi i Jonathan Panzo lawio yn y cwrt cosbi, ac fe welodd yr amddiffynnwr gerdyn coch hefyd.
Sgoriodd Paul Mullin o'r smotyn, cyn i Viktor Gyökeres sgorio i'r tîm cartref i'w gwneud hi'n 2-4.
Gyda chwarter awr yn weddill fe sgoriodd Kasey Palmer gyda chic rydd wych i gyfyngu mantais y Cymry i un gôl yn unig.
Er i Coventry bwyso am yr amser oedd yn weddill, llwyddodd Wrecsam i ddal eu gafael yn y fuddugoliaeth.
Enw Wrecsam fydd yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd felly, a hynny am y tro cyntaf ers 2000.
Bydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer y rownd honno brynhawn Sul, ble gall Wrecsam wynebu rhai o fawrion yr Uwchgynghrair