Rhybudd tywydd newydd am ragor o lifogydd posib
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion tywydd pellach wedi eu cyhoeddi ar gyfer rhagor o law ar draws Cymru gyfan o nos Wener i fore Sadwrn.
Daw hyn wrth i ymdrechion ddechrau ar draws y wlad i lanhau difrod yn dilyn trafferthion gafodd eu hachosi gan y tywydd garw ddydd Iau.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai rhagor o law dros nos daro cymunedau yn y de "sydd eisoes wedi teimlo'r effaith yn drwm".
Bu llawer o'r difrod ddydd Iau yn y de, gydag ardaloedd Porth a Phontypridd yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y rheiny gafodd eu taro waethaf.
Mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym ddydd Gwener, a ffyrdd wedi eu rhwystro ym Mhowys a Sir Fynwy.
Llifogydd yn debygol eto
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn gwahanol ar gyfer glaw dros rannau o Gymru.
Mae'r cyntaf mewn grym rhwng 21:00 nos Wener a 12:00 ddydd Sadwrn, ac yn weithredol ar draws y wlad gyfan.
Yna mae ail un sydd yn benodol ar gyfer rhannau o dde Cymru yn ymestyn o Gaerfyrddin i Gasnewydd - a hwnnw mewn grym o 22:00 nos Wener i 12:00 ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hynny achosi llifogydd i rai tai a busnesau, rhagor o drafferthion i deithwyr, a phroblemau cyflenwad trydan.
Yn y cyfamser mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y gallai'r rhannau o Gymru oedd eisoes wedi eu heffeithio gan lifogydd ddydd Iau gael eu taro eto.
Ychwanegodd CNC fod llifogydd dŵr arwyneb yn debygol o achosi rhagor o drafferthion yn ne a de-ddwyrain Cymru, "ble mae lefelau dŵr llonydd yn parhau'n uchel yn dilyn y glaw diweddar".
"Gyda lefelau afonydd eisoes yn uchel a'r tir mor wlyb, rydyn ni'n disgwyl gweld sawl rhybudd llifogydd os yw afonydd yn cyrraedd y lefelau hynny eto," meddai Kelly McLauchlan, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cymru gyda CNC.
Ychwanegodd nad oedd CNC yn darparu system rhybudd ar gyfer llifogydd dŵr arwyneb, ac felly y dylai pobl wirio ar wefan CNC a oedden nhw'n byw mewn rhywle ble roedd hynny'n risg.
"Hoffwn atgoffa pobl hefyd i beidio â gyrru neu gerdded drwy ddŵr llifogydd - dydych chi ddim yn gwybod beth sydd dan yr wyneb," meddai.
Adfer cyflenwadau trydan
Mae pump rhybudd llifogydd, dolen allanol yn parhau i fod mewn grym yn nwyrain a gorllewin Cymru, yn ogystal ag 17 rhybudd 'llifogydd: byddwch yn barod' ar draws Cymru.
Mae rhai ffyrdd hefyd ar gau, gan gynnwys yr A483 rhwng Y Trallwng a'r Drenewydd, gyda theithwyr yn cael eu hannog i wirio'u siwrne cyn gadael.
Does dim trenau'n rhedeg rhwng Yr Amwythig a'r Trallwng chwaith, gyda'r gwasanaeth bws hefyd yn debygol o weld oedi oherwydd cyflwr y ffyrdd.
Mae nifer o gemau chwaraeon eisoes wedi eu gohirio'r penwythnos yma hefyd oherwydd y tywydd a'r llifogydd.
Ond mae cyflenwadau trydan bellach wedi cael eu hadfer yn y gogledd, meddai SP Energy, a does dim rhagor o drafferthion tebyg yng nghanolbarth a de'r wlad.
Bu'n rhaid i bobl adael eu tai mewn ardaloedd o Ben-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf oherwydd y llifogydd ddydd Iau.
Cafwyd llifogydd unwaith eto i adeilad canolfan Gymraeg Clwb Y Bont ym Mhontypridd, oedd ond wedi ailagor rai wythnosau yn ôl yn sgil Storm Dennis yn 2020.
Yr olygfa ym Mhontypridd
gan ohebydd BBC Cymru, Dafydd Morgan
Mae'r sefyllfa yn bendant yn well ym Mhontypridd y bore 'ma.
Mae lefel Afon Taf wedi cwympo'n sylweddol o'i gymharu gyda ddoe, ond mae e'n dal i symud yn eithaf cyflym. Dyw'r difrod y tro hwn ddim hanner mor wael â Storm Dennis yn 2020.
Ond mae'r gymuned dal i fod wedi teimlo'r effaith.
Dyw hi ddim yn glir eto a fydd angen i Glwb Y Bont ganslo un o'u digwyddiadau nos Sadwrn i nodi'r Hen Galan, achos bod y dŵr wedi canfod ei ffordd i mewn.
Mae pobl fan hyn yn gwerthfawrogi bod arian wedi cael ei wario i wella isadeiledd llifogydd, ond maen nhw'n dweud bod angen gwneud rhagor.
Wrth ymateb i'r difrod sydd wedi cael ei achosi gan lifogydd mewn mannau, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau "wedi buddsoddi'n helaeth mewn systemau rhybuddio rhag llifogydd" dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae hyn wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn wrth leihau nifer y digwyddiadau llifogydd, a chyfeirio timau ymateb i'r llefydd ble mae'r risg ar ei fwyaf," meddai llefarydd.
Ond ychwanegodd bod newid hinsawdd yn golygu tebygolrwydd uwch o "stormydd cryfach ac yn fwy cyson", ac y bydd yr her i awdurdodau lleol yn un "sylweddol" o ystyried "dosbarthiad cyllid ansicr" yn y dyfodol.
"Mae rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yn hanfodol i [daclo'r broblem] hyn, a bydd yn cryfhau ein gwytnwch," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023