Gwersi Cernyweg yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Dewi Rhys JonesFfynhonnell y llun, Dewi Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Rhys-Jones

Bydd gwersi Cernyweg yn cael eu cynnal yn Nhrefdraeth, Sir Benfro dros yr wythnosau nesaf.

Ar ôl dechrau dysgu Cernyweg yn ystod y cyfnod clo, mae Dewi Rhys-Jones o Abergwaun yn edrych ymlaen at gyflwyno'r iaith i bobl Sir Benfro.

Dewi fu'n sgwrsio am y Gernyweg a'i gariad at yr ieithoedd Celtaidd ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.

O ddysgu Cymraeg i oedolion i ddysgu Cernyweg

Mae Dewi yn diwtor iaith gyda dros ddeugain mlynedd o brofiad yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Ar ôl dysgu'r iaith Gernyweg a gafodd ddipyn o sylw yng ngwobrau'r Mercury y llynedd, mae Dewi bellach yn teimlo'n hyderus i gynnal gwersi i ddechreuwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Baner Cernyw

Eglura: "O'n i'n dysgu Cymraeg i oedolion am efallai deugain mlynedd ac yn ystod y clo mawr penderfynes i ymddeol. Sai'n gwybod pam ond aeth y mwynhad.

"Penderfynes i bennu ac wrth gwrs yn ystod y clo mawr aeth llawer o bethau arlein - aeth cyrsiau Cymraeg i fod arlein. Meddylies i, gan fod diddordeb 'da fi yn yr iaith Gernyweg ers blynydde, alla i neud cwrs arlein - s'dim rhaid i fi fynd i Gernyw sy'n lletchwith.

"Ond mis Medi flwyddyn cyn dwetha dechreues i ddysgu lefel un a gwneud blwyddyn a mynd 'mlaen efo lefel dau mis Medi dwetha. Mae digon o sgiliau dysgu iaith i oedolion gyda fi ers dysgu dros y blynydde, felly penderfynes i, mae digon o Gernyweg 'da fi i ddechrau dosbarth gyda dechreuwyr pur.

Pa mor anodd ydy dysgu Cernyweg i siaradwyr Cymraeg?

"Mae'r iaith yn debyg iawn i'r Gymraeg. Mae rhai berfau union yr un fath ee Golchi yw golghi, gofyn yw govyn, danfon yw danvon felly maen nhw 'run peth.

"Patrwm arall gydag enwau yw pan i chi'n gweld y lythyren s ar ddiwedd enw - yn aml iawn os chi'n rhoi y sain t neu d ynddo chi'n cael yr enw Cymraeg, er enghraifft, gwynz yw gwynt, tas yw tad, doz yw dod - felly mae'n eitha rhwydd.

"Mae geiriau eraill union yr un peth, er enghraifft, Cernyweg da yw Cymraeg da, cegin yw cegin, tŷ yw tŷ a'r gair yn wrywyaidd fel yn y Gymraeg, cath yw cath a'r gair yn fenywaidd, eto fel yn y Gymraeg."

Dysgu Gwyddeleg am ei fod yn byw yn Abergwaun

Mae Dewi hefyd yn siarad un o chwaer-ieithoedd eraill y Gymraeg sef y Wyddeleg. Ac yntau'n byw yn Abergwaun a dim ond Môr Iwerddon yn ei wahanu a'r Gwyddelod, aeth ati i ddysgu Gwyddeleg ugain mlynedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Porthladd Abergwaun

Meddai: "Dechreues i ddysgu Gwyddeleg ugain mlynedd yn ôl - o'n i moyn cael blas ar iaith Geltaidd arall a dewisiais i Wyddeleg achos bo fi'n byw yn Abergwaun a'i bod hi mor rhwydd i fynd i Iwerddon.

"Wedyn ar ôl blwyddyn, dechreues i ddysgu Gwyddeleg fel athro hefyd a chael hwyl gyda hynny."

Cynnal y dosbarthiadau Cernyweg ar safle Brithdir mawr

Lleoliad y dosbarthiadau Cernyweg ym mis Ionawr fydd fferm Brithdir Mawr, safle lle mae gwersi Cymraeg a chyrsiau amgylcheddol yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

"Os ewch chi dros y mynydd tu ôl i Trefdraeth, chi'n mynd i gefn gwlad a mae'r hen ffarm sef Brithdir Mawr yno.

Ffynhonnell y llun, BrithdirMawr
Disgrifiad o’r llun,

Brithdir Mawr

"Prynodd cwpwl y fferm tua 25 mlynedd yn ôl a mae cymuned yn byw yna nawr - mae sawl teulu, pobl o bob oedran a plant hefyd - mae'r bobl yna yn ceisio byw bywyd gwyrdd ac maen nhw'n cynnig cyrsiau hefyd ar shwt i fyw yn wyrdd - pobl hyfryd.

"Mae parch gandddyn nhw tuag at y Gymraeg - maen nhw yn meddwl fod y Gymraeg yn rhan o'r amgylchedd, tirwedd, natur y wlad - felly mae cyrsiau Cymraeg yn mynd ymlaen gyda nhw hefyd."

Bydd y cwrs dysgu Cernyweg yn ddeg wythnos o hyd ac mae'r wers gyntaf yn cael ei chynnal ar Ionawr 10.

Pynciau cysylltiedig