Dirwy £230,000 i BA am anaf 'difrifol, trawmatig' gweithiwr
- Cyhoeddwyd
Mae British Airways wedi cael dirwy o £230,000 ar ôl i weithiwr gael anaf difrifol i'w ymennydd ar safle ger Maes Awyr Caerdydd.
Roedd Iain Mawson mewn coma am dair wythnos ar ôl disgyn o blatfform wrth weithio ar safle sy'n cynnal a chadw awyrennau yn Y Rhws, Bro Morgannwg.
Cafodd y peiriannydd 52 oed waedu ar ei ymennydd ac fe dorrodd ei benglog pan ddisgynnodd wrth archwilio adenydd Boeing 747.
Roedd British Airways Maintenance Cardiff Ltd wedi pledio'n euog i dorri rheolau iechyd a diogelwch.
'Newid ei fywyd'
Cafodd Mr Mawson nifer o anafiadau i'w asennau a'i gefn pan gwympodd drwy fwlch ble roedd rheiliau diogelwch wedi eu tynnu.
Nid yw wedi gallu gweithio ers y digwyddiad yn Nhachwedd 2019.
Daeth ymchwiliad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i'r casgliad bod y cwmni wedi methu ag asesu'r risgiau'n ddigonol, nac osgoi tynnu rheiliau diogelwch.
Dywedodd cyfreithiwr Mr Mawson ei fod yn dal i geisio dygymod gyda'r anafiadau sydd wedi "newid ei fywyd".
Ychwanegodd Lisa Gunner o gyfreithwyr Thompsons y byddai'r "anaf difrifol, trawmatig" i ymennydd Mr Mawson yn "cael effaith hirdymor ar ei fywyd a'i deulu".
Yn ogystal â'r ddirwy, bydd rhaid i British Airways Maintenance Cardiff Ltd dalu costau o £21,623.
Dywedodd y cwmni: "Diogelwch ydy ein blaenoriaeth bennaf ac rydyn ni wir yn edifar bod hyn wedi digwydd, er y prosesau oedd mewn grym."
Ychwanegodd y llefarydd bod y cwmni wedi "dysgu o'r profiad" a chyflwyno gwelliannau i fesurau diogelwch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023