'Clywed llais' i roi aren, ar ôl i rywun achub fy merch

  • Cyhoeddwyd
Arfon Jones a SerenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Seren Jones aren yn Ebrill 2022, ac ym mis Rhagfyr fe roddodd ei thad Arfon aren i'r cynllun Rhoddwyr Byw

Mae tad o Gaerdydd wedi rhoi anrheg "go neis" o aren y Nadolig hwn, misoedd wedi i'w ferch ei hun dderbyn aren a wnaeth arbed ei bywyd.

Ar ddechrau'r cyfnod clo roedd Seren Jones, sydd bellach yn 19, yn ddifrifol wael ar ôl tynnu ei haren gyntaf, a deufis wedyn roedd yn rhaid tynnu'r ail aren.

Ym mis Ebrill 2022 wedi misoedd o fod ar ddialysis am 10 awr bob nos, fe gafodd hi wybod bod aren addas ar gael iddi.

Wedi'r trawsblaniad mae Seren bellach yn gallu mynd allan a chymdeithasu gyda'i ffrindiau unwaith eto.

Galwad ar ddydd Ffŵl Ebrill

"Yn 2020 mi o'dd o'n gyfnod anodd iawn," medd ei thad Arfon Jones wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

"Roedd Seren yn wirioneddol sâl am wythnosau wedi tynnu'r aren gyntaf.

"Mi gafodd hi niwmonia - a doeddwn ni wir ddim yn gwybod a fyddai hi'n dod drwy'r cyfan."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Arfon Jones iddo gael "profiad rhyfedd iawn" a teimlo bod rhaid iddo roi aren

"Anghofiai fyth o'r alwad yna am 06:00 fore ddydd Ffŵl Ebrill 2022.

"Mi ddaru nhw ffonio i ddweud bo' nhw'n meddwl bod ganddyn nhw match i ni. Roedd hynny'n rhyfeddol.

"Mi a'th hi fewn. Fe fuon nhw wrthi yn operato dros nos ac mae'r cyfan wedi newid ein bywyd yn llwyr."

'Seren arall yn rhywle angen aren'

Dywedodd Seren: "Dwi'n cofio teimlo mor sâl - doedd e ddim yn neis o gwbl ond roedd Dad a Mam gyda fi ac ar ddiwedd y dydd roeddwn i mor falch bo' fi wedi llwyddo i gael aren a finnau heb yr un ers misoedd."

Wrth i Seren ddisgwyl am aren fe ddaeth y teulu ar draws cynllun Rhoddwyr Byw - cynllun sy'n defnyddio organau pobl sydd wedi bod mewn damweiniau, ac organau perthnasau cleifion.

"Doeddwn i fy hun ddim yn gallu rhoi aren i Seren am ei bod wedi'i mabwysiadu - felly doeddwn i na Rachel y wraig yn match iddi.

"Ond roedd yna gyfle i fi roi aren i rywun arall a dyma ymuno â'r cynllun." meddai Mr Jones, sy'n gyfrifol am Beibl.net, sef fersiwn Cymraeg cyfoes o'r Beibl.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Arfon Jones na'i wraig Rachel ddim yn gallu rhoi aren gan bod Seren wedi'i mabwysiadu

"Ond wedi i Seren gael ei haren newydd fe ddywedwyd wrthai y gallwn ddod oddi ar restr Rhoddwyr Byw a dyna pryd ges i brofiad rhyfedd iawn.

"Ro'n i fel taswn i'n clywed llais yn dweud wrthai 'mae 'na rywun arall sydd angen dy aren di' ac o'n i just yn teimlo bod rhaid i fi aros ar y rhestr."

"Ro'n i wir yn teimlo fod Duw isio fi 'neud hyn.

"Roedd hyn i gyd yn digwydd ar ddechrau'r rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin a dwi'n cofio edrych ar y teledu a gweld dynion o Wcráin yn dweud eu bod yn marw dros achos eu gwlad, ac o'n i'n meddwl i fi fy hun nad yw rhoi aren yn ddim byd i gymharu â'r aberth y mae'r dynion yna yn barod ei gymryd.

"Pan dd'wedwyd wrthai nad oedd rhaid i fi aros ar y rhestr - o'dd e just fel petai ryw lais yn siarad â fi ac yn dweud bod yna Seren arall yna yn rhywle sydd angen fy aren i a fedrwn i ddim gwrthod. Ro'n i'n teimlo bod rhaid."

Annog rhywun arall?

Ddechrau Rhagfyr 2022 fe gafodd Mr Jones lawdriniaeth i dynnu ei aren.

Nid yw'n gwybod pwy sydd wedi'i derbyn ond mae'n gwybod yn answyddogol bod iechyd y sawl a'i derbyniodd yn gwella.

"O'dd hi'n braf cael ei wneud e cyn Dolig i ddweud y gwir," meddai.

"Ro'n i'n teimlo bo' fi wedi rhoi presant Nadolig go neis i rywun ac roedd hi'n braf gwybod bo' fi ddigon iach i roi aren a finnau bron yn 70."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Arfon a Seren bod yr holl brofiad wedi creu perthynas unigryw rhyngddynt

Ychwanegodd Seren: "Mae'n anrheg mor anferth. Heb yr aren fydden i ddim yn fyw heddiw o bosib neu'n sicr byddwn wedi gorfod parhau â 10 awr o dialysis."

Wrth lenwi ffurflen i roi'r aren, un o'r cwestiynau, medd Mr Jones, yw a fyddech yn annog rhywun arall i wneud hyn.

"O'n i methu ticio byddwn, achos bo' fi'n ymwybodol ei fod bron yn alwad," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl bod gen i hawl i wthio eraill i wneud y math yma o benderfyniad.

"Dwi'n rhyfeddu gystal y mae'r ddau ohonom wedi dod dros y llawdriniaeth. Mae'r ddau ohonom yn teimlo bod rhyw bont rhyngom rŵan - y ddau ohonom 'efo dim ond un aren," ychwanegodd Mr Jones.

"Ydyn, ry'n ni'n gwbl unigryw," meddai Seren.

Gellir clywed y cyfweliad yn llawn ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul, ac wedi hynny ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig