Cwpan Her Ewrop: Brive 37-24 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Colli wnaeth Rygbi Caerdydd oddi cartref yn erbyn Brive yng Nghwpan Her Ewrop ddydd Sadwrn.
Roedden nhw yn mynd yno yn sicr o'u lle yn yr 16 olaf yn y gystadleuaeth ac fe fyddai buddugoliaeth wedi eu gosod ar frig eu grŵp.
Erbyn hanner amser roedd y tim cartref ar y blaen o 17-3 gyda thri chais i Brive gan Matu'u, Ferte a Fabien ac fe wnaeth Sanchez drosi un o'r ceisiau. Unig ateb Caerdydd oedd cic gosb gan Rhys Priestland.
Yn yr ail hanner rhoddodd Sanchez dri phwynt arall i'w dîm drwy lwyddo gyda chic gosb ond wedi hynny dechreuodd Caerdydd ddarganfod eu grym a daeth cais i James Botham ac wedi i Priestland drosi roedd gan Caerdydd ddeg pwynt.
Rhoddodd y cais hyder i'r tîm a daeth trosgais i Priestland ar ôl 50 munud wedi clamp o gic ganddo aeth â'r tim ymhell i hanner Brive.
Er i Sanchez gael cic gosb arall ac i Teddy Williams gael carden felen fe sgoriodd Caerdydd drwy Jason Harries a throsiad Priestland ac roedd Caerdydd ar y blaen ar ôl 57 munud.
Doedd Brive ddim wedi rhoi'r gorau iddi ac wedi pasio crefftus fe groesodd Arthur Bonneval y gwyngalch ac wedi i Herve ychwanegu dau bwynt roedd y sgôr yn 30-24.
Cyn diwedd y gêm daeth trosgais arall i'r Ffrancwyr drwy gais Wesley Douglas a throed Herve.
Bydd Caerdydd nawr yn wynebu Sale gartref yn rownd 16 olaf y gystadleuaeth, a Bennetton neu Connacht os ydyn nhw'n cyrraedd y chwarteri.