Cwpan Her Ewrop: Bayonne 7-20 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Cais Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies yn croesi i'r Scarlets yn erbyn Bayonne brynhawn Sadwrn

Roedd yna fuddugoliaeth ysgubol i'r Scarlets yn Ffrainc brynhawn Sadwrn wedi iddyn nhw drechu Bayonne o 13 pwynt yng Nghwpan Her Ewrop.

Leigh Halfpenny a sgoriodd y triphwynt cyntaf i'r tîm ac wedi bron i hanner awr o chwarae roedd gan yr ymwelwyr wyth pwynt wedi i'r capten Jonathan Davies groesi'r llinell.

Ymhen saith munud cais arall i'r Scarlets wrth i Joe Roberts groesi'r llinell ac ar hanner amser roedd y sgôr yn 0-13.

Ar ddechrau'r ail hanner roedd yna gerdyn melyn i'r tîm cartref ac yn fuan roedd yna drydydd cais i'r Scarlets wrth i Steff Evans groesi wedi iddo dderbyn pas hir Sam Cotelow.

Ond roedd yna un cais i'r tîm cartref wedi awr o chwarae. Y sgôr terfynol Bayonne 7-20 Scarlets.

Mae'r Scarlets wedi ennill pob un o'u gemau hyd yma yng Nghwpan her Ewrop, ac ôl gorffen ar frig Grŵp B fe fyddan nhw gartref yn erbyn Brive yn rownd yr 16 olaf.

Os ydyn nhw'n trechu'r Ffrancwyr fe fyddan nhw hefyd adref yn rownd yr wyth olaf, yn erbyn unai Bristol neu Clermont.

Pynciau cysylltiedig