Cwpan Pencampwyr Ewrop: Caerlŷr 26-27 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi cadarnhau lle yn rownd 16 olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Caerlŷr nos Wener.
Daeth y cais cyntaf i'r ymwelwyr wedi 10 munud, gyda'r bachwr Dewi Lake yn croesi yn dilyn sgarmes symudol.
Ond fe wnaeth y tîm cartref daro 'nôl bum munud yn ddiweddarach trwy'r mewnwr Jack van Poortvliet, a chyfartal 13-13 oedd hi ar yr egwyl.
Caerlŷr gafodd y dechrau gorau i'r ail hanner gyda chais gan Harry Simmons, cyn i'r Cymry sgorio eu hail gais hwythau trwy Keelan Giles er mwyn unioni'r sgôr unwaith eto.
Aeth y tîm cartref yn ôl ar y blaen gyda dwy gôl gosb gan Handrè Pollard, ond llwyddodd y Gweilch i gipio'r fuddugoliaeth trwy gais gan Jac Morgan a throsiad gan Owen Williams, a hynny gyda dros 90 munud ar y cloc.
Mae'r canlyniad yn golygu fod y rhanbarth o Gymru trwodd i rownd 16 olaf y gystadleuaeth, ble byddan nhw'n teithio i wynebu Saracens.
Os ydyn nhw'n ennill yr ornest honno, taith i Gloucester neu La Rochelle fyddai'n eu disgwyl nhw yn rownd yr wyth olaf.