Pwy oedd Adelina Patti?
- Cyhoeddwyd
Heddiw, Rihanna, Beyoncé, Taylor Swift ac Adele yw rhai o'r cantorion enwocaf yn y byd. Ond ar droad yr ugeinfed ganrif roedd enw un ddynes yn y byd cerddoriaeth yn fwy na phob un arall; Adelina Patti, ac roedd hi'n byw yng Nghymru.
Mae mis Chwefror 2023 yn nodi 180 mlynedd ers geni Adelina Patti, a hynny ym Madrid i rieni o'r Eidal - y tenor Salvatore Patti a'r gantores soprano, Caterina Barilli. Cafodd ei magu yn ardal y Bronx yn Efrog Newydd, ac fe ddechreuodd berfformio yn gyhoeddus yn wyth oed.
Er ei bod yn seren byd-enwog ac yn perfformio mewn rhai o neuaddau mwya'r byd, yng Nghymru y dewisodd fyw am flynyddoedd maith. Fe brynodd Adelina Patti Gastell Craig-y-Nos ger Glyntawe yn ardal Tawe Uchaf, Powys.
Roedd Patti'n berchen ar y castell tan iddi farw yno yn 1919, a dros y blynyddoedd fe drawsnewidiodd hi'r adeilad i fod yn un ysblennydd tu hwnt.
'Seren go iawn'
Y cerddor ac arweinydd cerddorol, Alwyn Humphreys, sy'n trafod ei hanes: "Hi oedd y gantores enwoca' yn y byd, a hi oedd yn cael y ffi uchaf hefyd - roedd hi'n seren go iawn.
"Roedd hi 'di dysgu ei pharot mae'n debyg i ddweud "cash" bob tro roedd ei rheolwr yn dod i'w gweld hi, a doedd hi ddim yn fodlon mynd 'mlaen i ganu oni bai ei bod hi'n cael y pres gyntaf."
Cymaint oedd ei henwogrwydd ar y pryd roedd llawer yn dweud mai hi oedd yr ail ddynes enwocaf yn y byd ar ôl y Frenhines Victoria.
Fe ganodd Patti ledled Ewrop, Gogledd America a De America, gan hawlio $5,000 y noson i berfformio ar un adeg - swm anferthol ar y pryd.
Perfformiodd i rai o bobl enwocaf y cyfnod gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau, Abraham Lincoln, a'i wraig, Mary Todd Lincoln, yn 1862.
Yn ôl y sôn roedd perfformiad Patti o'r gân Home! Sweet Home! mor arbennig a theimladwy nes fod yr Arlywydd a'i wraig yn eu dagrau. Roedd y Lincolns mewn cyfnod o alar wedi marwolaeth eu mab 11 oed, Willie, ac yn wir fe ddaeth gorchymyn o encore o'r gân ganddynt.
Recordio yng Nghymru
Fe brynodd Patti Gastell Craig-y-nos yn 1878, ac efallai bod y ffaith ei fod mewn lle mor anghysbell yn apelio i'r gantores. Esboniai Alwyn Humphreys:
"Dwi ddim yn credu oedd 'na fawr o adeilad yno cyn iddi fynd yno i fyw. Hynny yw, oedd o'n rhyw fath o gastell, ac oedd o mor bell o bob man.
"Hi oedd un o'r bobl gyntaf erioed i ganu ar recordiau, ac wrth gwrs, pan oedd hi'n gwneud y recordio roedd y cwmni recordio'n gorfod dod â'r holl offer (oedd yn gyntefig iawn pryd hynny wrth gwrs) i Graig-y-nos er mwyn iddi gael gwneud y recordiad.
"Roedd hi'n casáu rihyrsals achos oedd hi'n credu bod rihyrsals yn difetha'i llais hi. Roedd hi'n dipyn o prima donna ac roedd pobl yn gorfod bowio o'i blaen hi bob amser, a doedd rheolwyr opera ddim yn cael eu ffordd eu hunain o gwbl. Roedd hi'n deud 'reit dwi ddim am rihyrsio heddiw, ella ddoi draw 'fory' math o beth."
Recordiau o Patti'n canu
Yn 1877 dywedodd y cyfansoddwr Giuseppe Verdi mai Adelina Patti oedd y gantores orau erioed, ond gan ei bod yn hŷn pan gafodd y chwaraewr recordiau ei ddyfeisio, does dim recordiad ohoni'n canu pan oedd ar ei gorau.
"Yn anffodus roedd hi'n 61 oed pan wnaethpwyd y recordiau felly doedd y llais ddim cystal ag yr oedd," meddai Alwyn Humphreys.
"Mi roedd 'na lot o bobl yn ffeindio ei pherfformiadau hi ar y recordiau yn siomedig iawn. Ond pan glywodd hi ei hun yn canu fe ddwedodd hi 'ew, dyna chi gantores ffantastig ydw i wedi'r cyfan' - doedd hi ddim yn meddwl ei bod hi wedi dirywio dim wrth gwrs."
Cafodd Adelina Patti fywyd lliwgar a hynod ddiddorol. Fe briododd deirgwaith: y troeon cyntaf i wŷr o Ffrainc; Henri de Roger de Cahusac ac Ernesto Nicolini. Yna fe briododd y Barwn Rolf Cederström o Sweden (a oedd bron 30 mlynedd yn iau na hi) gan ennill y teitl Barwnes Cederström.
Perfformiodd Patti am y tro olaf yn 1914, a bu farw yng Nghraig-y-nos ar 27 Medi, 1919, yn 76 mlwydd oed. Roedd ganddi dŷ yng Nghymru am 41 o flynyddoedd.
Yn unol â'i dymuniadau cafodd ei chladdu yn y fynwent adnabyddus ym Mharis, Père Lachaise, er mwyn cael gorwedd yn agos at ei thad a'i hoff gyfansoddwr, Gioachino Rossini.
Hefyd o ddiddordeb: