Eddie Ladd: Perfformio yng Nghymru yn 'lloches' i artist o Bacistan

  • Cyhoeddwyd
Dawns y CornelFfynhonnell y llun, Lucy Anna Howson.
Disgrifiad o’r llun,

Eddie Ladd a Rameesha Azeem yn Dawns y Cornel

"Mae hwn wedi bod yn loches ac yn agor byd iddi."

Mae'r ddawnswraig Eddie Ladd yn disgrifio ei phrofiad o berfformio gyda artist o Bacistan, Rameesha Azeem.

Bu'r ddwy'n perfformio gyda'i gilydd fel rhan o gynllun creadigol arbennig sy'n nodi 75 mlynedd ers creu Pacistan fel gwlad yn Oriel Mission yn Abertawe.

Bu Eddie a Rameesha Azeem yn perfformio gyda'i gilydd ar ddydd Gwener 20 Ionawr - un o gyfres o bartneriaethau rhwng artistiaid benywaidd o Gymru ag artistiaid o Bacistan sy' wedi creu darnau celf, dawns a sain.

Meddai Eddie ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru am fwriad y project: "Bod ni'n tynnu merched o Gymru ac o Pacistan i weithio gyda'i gilydd.

"Dechreuodd y project arlein - cwrddais i â mhartner i Rameesha Azeem arlein ac wedyn cychwyn cyfnewid - roedd hi eisiau dysgu gwaith corfforol ac ro'n i eisiau dysgu am waith cerflunio a gosodwaith achos mae hi'n artist cain.

Ffynhonnell y llun, Lucy Anna Howson.
Disgrifiad o’r llun,

'Shut up and Dance' - Eddie yn ymarfer cyn y sioe

"'Oedd gymaint o hwn arlein achos oedd e'n deillio o'r cyfnod yna (y cyfnod clo).

"Mae fe'n gydweithrediad - dwi wedi dysgu sut gymaint wrthi hi ynglŷn â pwyll ac am fod yn agored i gymaint o bethau.

Ffynhonnell y llun, Lucy Anna Howson
Disgrifiad o’r llun,

Dawns y Cornel

Cipolwg ar fywyd yn Pacistan

"Yn anffodus iawn beth mae Rameesha wedi bod yn dweud wrtha'i yw y caledi yna a'r trais yn erbyn merched yna. Mae'n drais bob dydd, mae'n gallu bod yn drais eithafol.

"Mae 'na fygythiad iddi hi fel artist i allu ymarfer fel artist o gwbl achos mae 'na bwysedd sylweddol arni. Mae hi'n 25 oed ac mae'n mynd yn 'hwyr' arni a does 'na ddim cyfle iddi greu gyrfa i'w hunan yn ei gwlad ei hunan.

Ffynhonnell y llun, Lucy Anna Howson.
Disgrifiad o’r llun,

'Horoscope is Haram'

"Mae hi wedi dweud fod hi'n freuddwyd i gael dod i Abertawe a gwneud fel mae hi moyn. Mae'n gallu cerdded ar ben ei hunan yn y stryd - mae'n rhywbeth mor sylfaenol a 'na.

"Mae'n gallu mynd â'i chi, Lala, am wac am filltir yma ond yn ei chartref hi bydde hi ond yn gallu mynd hyd at ddiwedd y stryd.

Ffynhonnell y llun, Lucy Anna Howson
Disgrifiad o’r llun,

'Walking the Dog' yw enw'r rhan yma o'r project - dyma Rameesha a'i chi

"Mae pethe sylfaenol fel 'na yn gweithio yn ei herbyn hi ac mae hwn wedi bod yn loches ac yn agor byd iddi."

Yn yr Oriel

Yn dilyn cyfnod preswyl Eddie a Rameesha yn Oriel Mission, mae gwaith newydd gan wyth artist arall sy'n rhan o'r prosiect Llif yn cael ei gyflwyno yn yr oriel yn Abertawe rhwng 20 Ionawr a 25 Chwefror. Bydd gwaith sain, darlleniadau barddoniaeth, gosodiadau rhyngweithiol, paentiadau a thecstiliau yn mynd ag ymwelwyr ar daith rhwng Cymru a Phacistan.

Dyma'r artistiaid sy'n cymryd rhan:

  • Ayessha Quraishi a Mererid Hopwood

  • Maheen Zia ac Ingrid Murphy

  • Rameesha Azeem ac Eddie Ladd

  • Shanzay Subzwari a Lauren Heckler

  • Zohra Amarta Shah a Llio James

Hefyd o ddiddordeb: