Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 37-28 Bulls

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae rhediad campus diweddar y Scarlets yn parhau wrth iddyn nhw wrthsefyll pwysau aruthrol yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Bulls yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Roedd y tîm cartref 27-14 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf addawol, diolch i geisiau Dan Davis, Kemsley Mathias a Gareth Davies.

Daeth 12 o'u pwyntiau o giciau Sam Costelow, a lwyddodd i estyn y fantais yn gynnar wedi'r egwyl i 30-14.

Serch hynny, roedd y Bulls wedi edrych yn beryglus ar adegau o'r dechrau, ac fe diriodd Cyle Brink a Simphiwe Matanzima, i ychwanegu at geisiau eu cyd-chwaraewyr Zak Burger a Stravino Jacobs yn yr hanner cyntaf, gan gau'r bwlch i 30-28.

Yn wir, bu'n rhaid i'r Scarlets amddiffyn yn galed am 35 munud ond roedd yna orfoledd a rhyddhad ym Mharc y Scarlets pan wnaeth cais hwyr Johnny McNicholl a throsiad Dan Jones sicrhau'r fuddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig