Caerdydd: Dyn 22 oed wedi ei drywanu
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r ymosodiad ac wedi apelio am dystion
Mae dyn 22 oed wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar West Close, Trebiwt am tua 17:00 brynhawn Gwener.
Daeth swyddogion o hyd i'r dyn a anafwyd ac aethpwyd ag ef i'r ysbyty lle mae'n derbyn triniaeth am anafiadau na chredir i fod yn berygl i'w fywyd.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r ymosodiad ac wedi apelio am dystion.
Mewn datganiad dywedodd y llu nad oedd trosedd cyllyll yn rhan o fywyd bob dydd yn ne Cymru, gan ychwanegu: "Mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu i atal problem rhag digwydd."