Y Bala 0-0 Cei Connah (4-3 ciciau o'r smotyn)

  • Cyhoeddwyd
Luke Wall a Ben NashFfynhonnell y llun, CBDC

Y Bala yw pencampwyr Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes, yn dilyn buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn.

Gyda'r gêm yn cael ei chwarae ar Y Graig yn Rhosymedre, ger Wrecsam, roedd Cei Connah yn ceisio sicrhau'r tlws am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Ond tîm Colin Caton aeth a hi o flaen torf o 789 brynhawn Sadwrn.

Daeth y gwir gyfle cyntaf i'r Bala wrth i ergyd George Newell guro'r gôl-geidwad ond taro'n erbyn y postyn wedi 17 munud

Yn hwyr yn yr hanner cyntaf gwelodd Lassana Mendes gerdyn goch wedi iddo ymddangos i daflu'r bêl yn erbyn aelod o'r dorf.

Yn wynebu'r ail hanner gydag ond deg dyn roedd hi'n dalcen caled i'r Bala, gyda Alex Ramsay yn gorfod arbed yn wych o ymdrech Mike Wilde i gadw'r gêm yn ddi-sgôr.

Roedd tîm Colin Caton yn teimlo y dylent wedi cael cic o'r smotyn yn gynnar wedi'r ail dechrau, gyda Newell hefyd yn methu cyfle da i roi'r Bala ar y blaen.

Roedd Andy Firth hefyd yn gorfod arbed yn dda o ymdrech Chris Venables, wrth i'r Bala ddechrau'r ail hanner gryfaf.

Yn dilyn tacl hwyr ar gyn chwaraewr Cymru, Dave Edwards, roedd Cei Connah hefyd lawr i ddeg dyn wrth i'w capten George Horan ei anfon o'r maes wedi 87 munud.

Ond er gwaethaf ymdrechion hwyr y Bala, di-sgôr oedd hi wedi 90 munud gyda'r chwaraewyr yn wynebu ciciau o'r smotyn.

Gyda'r ddau dîm yn gyfartal wedi pedair ymgais yr un, roedd llwyddiant cic Paul Rutherford yn gadael yr holl bwysau ar Mike Wilde.

Ond sbardunodd arbediad Ramsay ddathliadau gwyllt ymysg y rheiny oedd wedi gwneud y daith o Benllyn.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Sgorio ⚽️

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Sgorio ⚽️

Pynciau cysylltiedig