Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Leinster 38-14 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhediad berffaith Leinster yn parhau diolch i fuddugoliaeth pwynt bonws gyfforddus ar domen eu hunain.
Er gwaethaf colli eu sêr rhyngwladol, roedd y Gwyddelod yn ddi-baid o'r dechrau i'r diwedd, gyda Luke McGrath yn croesi gyda dau gais.
Roedd ceisiau hefyd i Max Deegan, Brian Deeny, Max O'Reilly a Liam Turner.
Croesodd Rory Thornton ar ei 100fed ymddangosiad i Gaerdydd, gyda Kristian Dacey hefyd ar y sgôrfwrdd.
Roedd Caerdydd wedi dathlu buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Leinster bron i flwyddyn yn ôl, ond efelychwyd y gamp honno wrth i dîm Dai Young golli'n drom.
Mae Leinster bellach yn ddi-guro ym mhob un o'u 17 gêm ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor hwn ac ar frig y tabl.
Mae Caerdydd yn 10fed ar ôl colli pedair o'u pump diwethaf.
Yn gynharach brynhawn Sadwrn bu i'r Dreigiau golli gartref o 28-42 yn erbyn Glasgow Warriors.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023