Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Zebre 24-28 Y Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Tiaan Thomas-WheelerFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tiaan Thomas-Wheeler ymysg sgorwyr y Gweilch

Fe frwydrodd y Gweilch yn ôl i hawlio buddugoliaeth pwynt bonws yn Yr Eidal brynhawn Sul.

Ar ôl pum munud yn unig roedd tîm Toby Booth ar y blaen o 14-0, diolch i geisiau gan Harri Deaves a Tiaan Thomas-Wheeler, dim ond i ildio bedair gwaith heb ymateb.

Ond wrth i'r Gweilch wynebu wythfed colled cynghrair o'r tymor fe frwydron nhw yn ôl.

Daeth gobaith diolch i ymdrech Morgan Morris toc wedi'r awr.

Fe seliwyd y pwyntiau wrth i Reuben Morgan-Williams groesi gyda 10 munud yn weddill.

Er ymdrech hwyr y tîm cartref, llwyddodd y Gweilch i sicrhau'r fuddugoliaeth werthfawr.

Golyga'r canlyniad fod y Gweilch yn codi i 12fed yn y tabl, yn lefel ar bwyntiau gyda Chaerdydd.

Pynciau cysylltiedig