Canslo gemau ieuenctid ar ôl i feicwyr modur ddifrodi caeau

  • Cyhoeddwyd
Sgiwen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i'r clybiau ieuenctid ganfod rhywle arall i chwarae eu gemau am y tro

Bu'n rhaid i glybiau chwaraeon ieuenctid ohirio eu gemau dros y penwythnos ar ôl i gaeau gwair gael eu difetha gan feicwyr modur.

Mae'r difrod yng Nghlwb Rygbi Sgiwen ger Castell-nedd wedi achosi "dicter a gofid", yn ôl Heddlu De Cymru.

Dywedodd Carl Jenkins, 41, sy'n gweithio gyda thimau ieuenctid y clwb, eu bod yn "hynod ofidus" am y sefyllfa.

"Pam fyddai rhywun yn gwneud hyn?" gofynnodd Mr Jenkins, sy'n heddwas gyda Heddlu'r De.

"Mae wedi cael ei ddifetha ar gyfer plant Sgiwen - pêl-droed a rygbi.

"Mae'n llanast. Mae fel sbageti ar draws tri chae. Mae'r difrod yna'n mynd i gostio degau o filoedd o bunnau i'w sortio o bosib.

"Gall gymryd wythnosau lawer i'w sortio, ac ry'n ni'n edrych am wirfoddolwyr all ddod draw i helpu gwneud y gwaith cyn gynted â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod y beiciau modur wedi "achosi difrod sylweddol" i'r caeau chwarae

Ychwanegodd Mr Jenkins: "Mae'r plant yn drist, a'r hyfforddwyr a'r rheolwyr hefyd.

"Ry'n ni'n hyfforddi rhywle arall ar y funud, ond mae gennym ni wyth gêm gartref yr wythnos hon a bydd rhaid i ni ganfod rhywle arall i chwarae."

Dywedodd yr Arolygydd Lindsey Sweeney o Heddlu'r De: "Ry'n ni'n ymwybodol fod beiciau modur wedi mynd ar draws y caeau chwarae y penwythnos yma, gan achosi difrod sylweddol sydd wedi cael effaith fawr ar y gymuned leol.

"O ganlyniad i'r ymddygiad troseddol yma mae gemau ieuenctid wedi cael eu canslo, sydd, yn ddealladwy, wedi achosi dicter a gofid."

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig