Dyn o Wynedd wedi marw'n annisgwyl o lid yr ymennydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 50 oed o Wynedd wedi marw'n sydyn o lid yr ymennydd (meningitis) ar ôl cwyno bod ganddo boen clust.
Mae'r gymuned wedi bod yn rhoi teyrngedau i Gareth Rowlands, o bentref Rhiwlas ger Bangor, ar ôl iddo farw yn yr ysbyty dros y penwythnos.
Dywedodd aelodau o'i deulu bod gan y peintiwr a phapurwr "galon o aur" a'i fod "o hyd yn helpu eraill".
Dywedon nhw ei fod yn ddyn iach a bod y salwch wedi bod yn annisgwyl a chyflym.
'Calon o aur'
Ar ddydd Sadwrn 14 Ionawr fe wnaeth Mr Rowlands gwyno ei fod yn dioddef o boen clust. Erbyn dydd Sul roedd ganddo gur pen, ac yn gynnar fore Llun fe wnaeth ei bartner ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol.
Gwnaeth sgan MRI yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ddarganfod fod llid yr ymennydd wedi niweidio ei ymennydd, gan olygu nad oedd fawr o obaith y byddai'n goroesi.
Dywedodd llysferch Mr Rowlands, Linzi Whitmore: "Fo oedd digrifwr y teulu, o hyd yn rhannu jôcs, o hyd yn helpu eraill.
"Roedd ganddo galon o aur ac roedd yn caru ei gi, Celt."
Mae'r teulu nawr yn codi arian er mwyn rhoi'r angladd "gorau posib" iddo, ac eisoes wedi codi dros £2,000 allan o'r targed o £2,500.
'Gofal gwych gan y staff'
Ychwanegodd Ms Whitmore: "Yn gynnar ar fore dydd Llun, gwnaeth fy mam dod o hyd iddo yn ymladd am ei fywyd. Doedd ei ymennydd ddim yn cael ocsigen.
"Cafodd Gareth ei rhoi mewn coma, ac fe gafodd ofal gwych gan y staff.
"Yn anffodus gwnaeth sgan MRI gadarnhau bod y rhan fwyaf o ymennydd Gareth wedi'i niweidio a doedd 'na ddim siawns mawr ganddo o oroesi."
Cafodd Mr Rowlands ei gymryd allan o'r coma a bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar 4 Chwefror 2023.