Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Pinatar
- Cyhoeddwyd
Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Pinatar yr wythnos nesaf.
Bydd y garfan o 27 yn wynebu'r Philippines, Gwlad yr Iâ a'r Alban yn Sbaen rhwng 15 a 21 Chwefror.
Wedi ei henwi yn y garfan am y tro cyntaf mae gôl-geidwad Sheffield United, Bethan Davies.
Mae posib hefyd y bydd Gemma Evans yn ennill ei hanner canfed cap dros Gymru yn ystod y gystadleuaeth.
Bydd modd gwylio'r holl gemau yn fyw ar BBC iPlayer.
Y garfan yn llawn
Laura O'Sullivan (Merched Dinas Caerdydd), Olivia Clark (Bristol City), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Bethan Davies (Sheffield United), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Charlie Estcourt (Birmingham), Hayley Ladd (Manchester United), Josie Green (Caerlŷr), Gemma Evans (Reading), Lily Woodham (Reading), Esther Morgan (Sunderland - ar fenthyg o Tottenham Hotspur), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Crystal Palace), Angharad James (Tottenham Hotspur), Jess FIishlock (OL Reign), Ceri Holland (Lerpwl), Megan Wynne (Southampton), Kayleigh Green (Brighton), Helen Ward (Watford), Elise Hughes (Crystal Palace), Georgia Walters (Sheffield United), Carrie Jones (Caerlŷr - ar fenthyg o Manchester United), Hannah Cain (Caerlŷr), Rachel Rowe (Reading), Ella Powell (Bristol City), Alice Griffiths (Southampton), Maria Francis-Jones (Sheffield United - ar fenthyg o Manchester City).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022