Cwpan Pinatar: Gwlad Belg yn trechu Cymru ar giciau o'r smotyn

  • Cyhoeddwyd
Belg v CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gobeithion Cymru o ennill Cwpan Pinatar ar ben wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Wlad Belg ar giciau o'r smotyn nos Sadwrn.

Roedd hi'n hanner cyntaf addawol iawn i Gymru yn erbyn tîm gorau'r gystadleuaeth yn ôl detholion y byd, gyda'r gêm yn parhau'n ddi-sgôr ar yr egwyl.

Wedi iddi orffen yn 0-0 ar ôl 90 munud fe aeth hi i giciau o'r smotyn, gyda Chymru'n methu pedair ergyd wrth i Wlad Belg ennill o 3-1.

Roedd y gêm yn rhan o Gwpan Pinatar, sy'n cael ei chwarae'n Sbaen. Eleni yw ymddangosiad gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth, sy'n cynnwys wyth gwlad Ewropeaidd.

Llwyddodd Cymru i drechu'r Alban yn eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth ddydd Mercher.

Bydd Cymru nawr yn mynd ymlaen i wynebu Gweriniaeth Iwerddon neu Rwsia yn y gêm am y trydydd safle nos Fawrth.