Dynes o Ganada'n ymweld â Chymru wedi camgymeriad ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Mae'n ddrwg gen i, Cymru!" meddai Pavlina

Mae dynes o Ganada yn ymweld â Chymru er mwyn dysgu mwy am y wlad ar ôl iddi wneud y camgymeriad o feddwl bod Cymru yn Lloegr.

Mae gan Pavlina Livingstone-Sudrich, o Whitehorse, Yukon, dros 200,000 o ddilynwyr ar TikTok.

Mewn fideo diweddar soniodd am offer i gynhesu oedd wedi ei wneud yng "Nghymru, Lloegr".

Ar ôl derbyn nifer o sylwadau am ei chamgymeriad, gan gynnwys fideo TikTok gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, fe ymddiheurodd Pavlina.

Awgrymodd Mr Drakeford y gallai ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru drwy ymweld â'r wlad.

Fe gyrhaeddodd hi faes awyr Heathrow nos Lun ac mi fydd hi'n aros am wyth diwrnod.

Disgrifiad o’r llun,

Pavlina Livingstone-Sudrich ar ei hymweliad â'r Senedd ddydd Mercher

Mae Pavlina yn postio fideos am fywyd yn nhalaith Yukon yng ngogledd Canada, ac mewn un soniodd am declyn i ddal potel dŵr poeth a wnaed yng Ngheredigion.

Treialodd y ddyfais mewn fideo 28 eiliad a bostiwyd ym mis Tachwedd.

Dywedodd ei fod yn ei chadw'n gynnes tra'n sgïo a'i fod "wedi'i wneud â llaw gan ddynes o'r enw Belinda yng Nghymru, Lloegr".

Mae'r Cosymajig yn cael ei wneud gan y gwerthwr ar-lein Belinda Knott yng Nghellan, Ceredigion.

Ffynhonnell y llun, Pavlina Livingstone-Sudrich
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Pavlina ei bod yn "ddiolchgar iawn i bobl Cymru am fod â'r agwedd gadarnhaol tuag at hyn oll"

Dywedodd fod archebion tramor "wedi ffrwydro" ar ôl i Pavline rannu'r fideo.

Ond roedd yna hefyd sylwadau o Gymru am y camgymeriad daearyddol, meddai.

'Haelioni ysbryd gan bobl Cymru'

Er bod sawl un o wylwyr ei ffrwd ar TikTok wedi tynnu sylw at ei chamgymeriad daearyddol, roedd hi wedi'i hysbrydoli gan ymatebion pobl o Gymru.

"Fe wnaeth yr ymateb argraff fawr arna i," meddai Pavlina.

"Mae'n hawdd iawn y dyddiau hyn gael ymateb cas neu bobl yn ceisio'ch 'canslo', ond roedd yna wir haelioni ysbryd gan bobl Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pavlina y cyfle i gwrdd â'r Llywydd Elin Jones ym Mae Caerdydd

Yn ystod ymweliad â'r Senedd fe gafodd Pavlina gyfarfod â'r Llywydd Elin Jones, oedd yn canmol ymateb pobl Cymru i'r camgymeriad.

"Roedd pobl yn neidio ar hynny ac yn ei chywiro hi, ond nid ei chywiro mewn ffordd negyddol, ond yn yr achos yma ond ei chywiro hi'n bositif a hi'n derbyn yr her o ddysgu fwy am Gymru," meddai Ms Jones.

"Mae 'na bobl sy'n gallu dylanwadu ar eraill drwy'r cyfryngau cymdeithasol, fel Pavlina, sydd â lot fawr o ddilynwyr, ac mae hi'n gallu trosglwyddo'r neges ambwyti pa mor arbennig yw Cymru.

"Mae'n rhaid i mi fynd ar TikTok efallai! 'Wy 'di bod yn edrych ar ambell i fideo ac yn dechrau meddwl tybed a ydw i rhy hen neu beidio i fynd ar TikTok?"

'Diolchgar iawn'

Arweiniodd y cyfan at Pavlina i gynllunio'r daith wyth diwrnod o amgylch Cymru gyda'i phartner.

Mae'r daith yn cynnwys ymweliadau â'r Senedd ym Mae Caerdydd, Aberhonddu, Wrecsam a Cheredigion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at ei chostau llety. Mae BBC Cymru yn deall bod y ffigwr tua £1,000.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Mark Drakeford y gallai Pavlina ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru drwy ymweld â'r wlad

"Rwy'n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am fod â'r agwedd gadarnhaol tuag at hyn oll," meddai Pavlina.

"Roedd yn gamgymeriad sy'n cyffwrdd â diwylliant a gwladychu.

"Mae Yukoners yn deall hynny, o gael 14 o genhedloedd brodorol yma a hanes o golli iaith."

Mae hi'n dweud bod pobl yn Yukon hefyd yn gweld yr ochr ysgafn.

"Mae pobl yn Yukon yn ceisio cyfeirio at lefydd eraill yn anghywir yn y gobaith y bydd gwlad arall yn eu helpu a'u hanfon ar daith!" meddai.

Sylw 'hollol anhygoel'

Yng Ngheredigion, lle mae disgwyl i Pavlina ymweld ar 14 Chwefror, dywedodd Belinda ei bod wedi gorfod cyflogi dau gynorthwyydd rhan amser ac wedi contractio rhywfaint o'r gweithgynhyrchu i gwmnïau eraill er mwyn ateb y galw.

"Mae'r rhan fwyaf o archebion yn dod o dramor, o America a Chanada oherwydd TikTok," meddai. "Mae'n hollol anhygoel."

Ychwanegodd ei bod yn "edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod" Pavlina a'i "chroesawu i'r stiwdio".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gyffrous i groesawu Pavlina i Gymru a dangos iddi hi, a'i channoedd o filoedd o ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol, yr holl bethau gwych sydd gennym i'w cynnig.

"Fel rhan o'n croeso cynnes Cymreig, rydym yn cyfrannu at arhosiad Pavlina mewn Gwely a Brecwast, tra bod Pavlina yn talu costau eraill ei hun."