Dioddef profiad 'trawmatig' yn ysbyty meddwl Hillview

  • Cyhoeddwyd
HillviewFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Datgelodd dau ymchwiliad gan BBC Cymru ddefnydd gormodol o ataliadau ac arferion gwael yn Ysbyty Hillview

Mae'n rhyddhad i ferch yn ei harddegau, a gafodd brofiad "trawmatig" mewn ysbyty meddwl preifat, na fydd merched ifanc eraill yn derbyn triniaeth yno.

Dywedodd y cyn glaf ei bod yn parhau i gael hunllefau am ei chyfnod yn Ysbyty Hillview yng Nglynebwy.

Fis Gorffennaf 2022 gwnaeth cyn berchennog yr ysbyty, Regis Healthcare, wadu'r cwyn a dywedodd fod Hillview yn un o "wasanaethau mwyaf llwyddiannus" Prydain.

Cwmni newydd, Elysium Healthcare, sydd bellach yn gyfrifol am Ysbyty Hillview ac maen nhw'n dweud mai eu bwriad yw darparu gwasanaeth iechyd meddwl newydd i oedolion yn yr ysbyty.

Roedd Hillview yn ysbyty preifat wedi'i gofrestru i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i fenywod a merched rhwng 13 a 18 oed.

'Dwi'n dal i gael hunllefe 'mod i nôl 'na'

Fe gafodd y ferch, nad oes modd ei henwi, ei chadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac ar y pryd Regis Healthcare oedd y perchennog.

Datgelodd dau ymchwiliad gan BBC Cymru ddefnydd gormodol o ataliadau ac arferion gwael yno.

Yn ôl y ferch, byddai'n cael ei hatal gan dri i bum aelod o staff heb unrhyw ymdrechion i'w thawelu yn gyntaf.

Mewn wythnos cafodd ei hatal 17 o weithiau ac roedd saith o'r rhain am gyfnod o ddwy awr neu fwy.

Yn yr adroddiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - yr 11eg adroddiad ers 2018 - nodwyd bod yr ysbyty yn wasanaeth oedd yn codi pryderon.

Mae'r ferch yn dweud bod y ffaith na fydd yr uned yn trin plant a phobl ifanc yn "newyddion da".

"Dwi'n dal i gael hunllefe 'mod i nôl 'na felly sa'i 'di dod drosto fe. Mae'n beth da achos fydd dim un ferch ifanc arall yn mynd trwy beth 'nes i, ond mae'r niwed i fi wedi cael ei wneud nawr," meddai.

"Ges i amser caled ac roedd e'n teimlo fel eu bod nhw'n fy ngorfodi i i ail-fyw'r trawma.

"Do'n nhw ddim yn gwrando arna i - cafodd fy llais i ei gymryd i ffwrdd oddi wrtha i.

"Tasen i 'di cael help yna bydde fy mhrobleme i wedi cael eu datrys ond rwy'n waeth o fod wedi bod yna - wi 'di cael trawma ac fe ddatblyges i arferion drwg, fel hunan-niweidio a chael anhwylder bwyta."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Regis Healthcare yn gwadu'r cyhuddiadau ac yn dweud na allan nhw drafod achosion penodol

Fis Gorffennaf 2022, fe wadodd cwmni Regis Healthcare yr holl honiadau a gafodd eu gwneud ond ychwanegodd y cwmni nad oedd yn gallu gwneud sylw ar achosion penodol oherwydd cyfrinachedd ac am ei fod yn rhan o anghydfod cyfreithiol.

Dywedodd Regis Healthcare hefyd eu bod wedi croesawu ymweliadau gan yr arolygiaeth iechyd a'r gwasanaeth iechyd a'u bod wedi cydnabod pwysigrwydd cael canllawiau ac adborth am feysydd lle'r oedd angen gwelliannau.

Fis Medi 2022 fe gafodd Hillview ei brynu gan Elysium Healthcare a dywedodd y cwmni hwnnw ei fod am symud y cleifion presennol yn nes at eu cartrefi.

Maen nhw'n gobeithio cwblhau'r broses erbyn Mawrth 2023.

"Yn y cyfamser, mae Hillview yn parhau i fod yn ysbyty iechyd meddwl y mae mawr ei angen ar Gymru a byddwn yn symud i ddarparu gwasanaeth newydd i oedolion o Gymru," medden nhw.

Y bwriad yw cytuno ar y ddarpariaeth newydd mewn ymgynghoriad â'r gwasanaeth iechyd a'i phartneriaid.

'Cynnydd mewn cyflyrau iechyd meddwl ymhlith plant ifanc'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Williams AS yn rhybuddio bod cyflyrau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu

Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru, yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Dywedodd ei bod yn poeni am ddiffyg capasiti yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed er mwyn sicrhau ymyrraeth gynnar.

"Mae'r cynnydd mewn cyflyrau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn argyfwng byddwn i'n dweud.

"Rydw i wedi clywed tystiolaeth mewn sawl ymchwiliad yn y Senedd ble mae hynny bendant yn digwydd.

"Mae hynny'n golygu bod pobl ifanc ddim yn gallu cyrraedd eu llawn potensial, ddim yn cael y cymorth mae nhw angen mewn argyfwng sy'n golygu bod nhw'n agored i niwed meddyliol a chorfforol, a hefyd efallai methu parhau gyda'u haddysg," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod amddiffyn iechyd meddwl pobl ifanc yn "flaenoriaeth lwyr".

Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi gwario £50m ychwanegol ar wasanaethau.

Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, meddai, yn cyhoeddi strategaeth 5 i 10 mlynedd yn nodi gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn ystod y misoedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig