'Gorddefnydd o ddulliau atal corfforol mewn uned plant'

  • Cyhoeddwyd
HillviewFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed un claf fod ei phrofiad yn yr uned "wedi ei thorri"

Mae tad yn dweud bod ei ferch wedi dioddef trawma oherwydd y defnydd rheolaidd o ataliadau corfforol mewn ysbyty preifat ym Mlaenau Gwent.

Mae'r amodau yn Ysbyty Hillview, sy'n trin merched yn eu harddegau â salwch meddwl, yn "annynol" meddai'r tad a'i ferch. Maen nhw nawr yn cymryd camau cyfreithiol.

Daw wedi i arolygiad iechyd godi "pryderon uniongyrchol" am ddiogelwch cleifion.

Cwmni Regis Healthcare sy'n rhedeg yr ysbyty, ac maen nhw'n gwadu pob honiad gan ddweud ei fod yn un o'r "gwasanaethau mwyaf llwyddiannus" yn y Deyrnas Unedig.

Ysbyty annibynnol yw Hillview yng Nglyn Ebwy sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i fenywod a merched rhwng 13 a 18 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y tad nad oes hawl cyfreithiol i ddatgelu ei enw nac enw ei ferch

Mae'r ferch, nad oes modd ei henwi, yn cael ei chadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae hi a'i thad yn dweud, yn lle ceisio ei thawelu, bod tri i bum aelod o staff yn ei hatal ar y llawr weithiau am dros ddwy awr.

Treuliodd y ferch gyfnod mewn ysbytai eraill yn dilyn ymgais i gymryd ei bywyd, cyn mynd i Hillview.

Dywedodd ei thad mai prin oedd y digwyddiadau bryd hynny gydag ychydig iawn o atal corfforol.

Ond ychwanegodd bod pethau wedi "dirywio'n gyflym" pan symudodd i Hillview.

'Trin fel anifail'

Honnodd y tad fod Hillview "wedi cymryd urddas" ei ferch, gan ei chosbi drwy fynd â'i heitemau personol gan gynnwys ei brws dannedd a'i dillad.

Dywedodd y ferch yn ei harddegau wrth ei thad nad oedd wedi cael cawod ers 10 diwrnod, nad oedd wedi brwsio ei dannedd a dywedodd fod ei gwallt yn "ffiaidd".

"Maen nhw'n fy nhrin i fel anifail," meddai wrtho.

"Ewch â fi o'r twll uffernol yma, rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy herwgipio. Maen nhw'n gwaethygu fy iechyd meddwl."

Roedd diffyg staff benywaidd hefyd yn golygu nad oedd yn gallu newid ei thyweli mislif na defnyddio'r tŷ bach yn rheolaidd ar y dechrau, honnodd ei thad.

Mewn lleoliadau blaenorol, roedd y ferch wedi cael ei harsylwi gan un person yn unig.

Ond yn Hillview cynyddodd hynny i o leiaf dri gweithiwr cymorth oedd hyd braich oddi wrthi, hyd yn oed wrth iddi gysgu.

Mewn un wythnos cafodd ei hatal yn gorfforol 17 o weithiau ac roedd saith cyfnod am ddwy awr neu fwy.

"Dydw i ddim yn adnabod fy merch. Mae wedi ei heffeithio'n fawr. Mae hi wedi cael ei hatal yn gorfforol sawl gwaith ac mae hynny'n drawma na allai ddychmygu," meddai ei thad.

Yn yr adroddiad diweddara gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - y degfed ers 2018 - roedd nifer yr ataliadau corfforol "yn parhau i fod yn uchel".

Yn ôl canllawiau'r sefydliad sy'n rhoi cyngor i'r llywodraeth ynglŷn â thriniaethau a chyffuriau meddygol - NICE - dylai'r weithred o atal rhywun yn gorfforol ddigwydd pan mae popeth arall yn methu a dylai bara am 10 munud ar y mwyaf.

Dywedodd y tad hefyd fod ei ymweliadau a'i alwadau ffôn wedi'u cyfyngu a bod bron pob galwad wedi'i chynnal ar ffôn lle roedd modd i bawb ei chlywed.

"Roedd, ac mae'n parhau, yn ofnadwy iddi. Mae wedi bod yn hunllef," meddai'r tad.

"Mi adawodd le - lle roedd ganddi ryddid, y defnydd o'i ffôn a'r gallu i gysylltu â ffrindiau a theulu ond pan aeth hi yna fe gymron nhw bopeth oddi wrthi."

Honnodd cynrychiolwyr cyfreithiol ac eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol hefyd eu bod nhw wedi eu herio gan yr ysbyty ar ôl gofyn am gyfarfodydd preifat gyda'u cleient.

Cwynodd y tad a'r ferch i'r ysbyty ac awdurdodau eraill.

Dywedodd y ferch fod y profiad wedi "torri ei hysbryd hi".

'Angen gwelliant sylweddol'

Bellach mae'r claf a'i theulu yn cymryd camau cyfreithiol, gan ddweud bod Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi'i thorri a bod y ddarpariaeth gofal yn Hillview yn "annynol".

"Os bydd hi'n aros yno, fydd hi byth yn gwella," meddai'r tad.

"Dyma'r peth anoddaf i mi erioed orfod delio ag ef."

Nododd arolwg gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Tachwedd 2021, fod angen "gwelliant sylweddol" ar yr ysbyty, yn enwedig o ran llywodraethiant ac arweinyddiaeth, rheoli meddyginiaethau ac atal a rheoli heintiau.

Yn ogystal, dywedodd arolygwyr fod yr ysbyty wedi "methu â darparu amgylchedd diogel a glân" a bod materion yn ymwneud â meddyginiaeth yn "risg uniongyrchol i ddiogelwch cleifion".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Edwin Jones fod angen newid diwylliant mewn gwasanaethau anabledd dysgu ac iechyd meddwl.

Ychwanegodd nad oedd y gwaith o gofnodi a monitro ataliadau yn effeithiol ac nad oedd cofnodion cynlluniau gofal yn gynhwysfawr ac yn anodd dod o hyd iddynt.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod angen "gwelliant sylweddol ar frys" mewn nifer o feysydd a bod trefniadau annigonol ar waith i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel.

Oherwydd pryderon am ddiogelwch cleifion, cyflwynodd yr Arolygaeth hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio i Regis Healthcare ac mae'n monitro'r gwasanaeth yn agos.

Yn ôl yr Athro Edwin Jones, o'r rhwydwaith Restraint Reduction Network mae angen newid diwylliant mewn gwasanaethau anabledd dysgu ac iechyd meddwl.

"Mae pobl wedi marw oherwydd atal corfforol, mae pobl wedi eu hanafu yn aml iawn a hefyd yr holl trawma, yr holl brofiad o gael rhywun yn dod â'u dwylo arno ti, tynnu ti i'r llawr, does neb yn licio hwnna," meddai'r Athro Jones.

"Mae lot o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, gydag awtistiaeth, gydag anableddau dysgu, maen nhw wedi cael bywyd o trawma ar ôl trawma. Dyna beth yw e contain a control nid treatment a recovery."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lewis Lloyd fod un adroddiad yn nodi "problemau annerbyniol iawn"

Yn ôl Lewis Lloyd, o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae'r adroddiad diweddara gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi "problemau annerbyniol iawn" yn Ysbyty Hillview.

"Ein nod ni yw gwneud yn siŵr bod sgyrsiau'n digwydd rhwng yr holl asiantaethau sy'n rhan o'r sefyllfa a bod ni'n cael newidiadau positif i'r bobl ifanc sydd yna wrth gofio mai nhw yw rhai o'r bobl ifanc mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni," meddai.

'Gwelliannau a chynnydd'

Mewn datganiad, dywedodd cwmni Regis Healthcare ei fod yn croesawu ymweliadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r gwasanaeth iechyd a'i fod yn cydnabod pwysigrwydd derbyn canllawiau ar feysydd "lle'r ydym yn gwneud yn dda iawn" a hefyd meysydd sydd angen eu gwella.

Ychwanegodd fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi bod Hillview yn gweithio'n "effeithiol iawn" mewn sawl maes gan gynnwys y berthynas dda rhwng staff a chleifion, adborth da gan gleifion yn ogystal ag hyfforddiant.

"Gall pwyntiau negyddol o fewn adroddiadau arolygu weithiau ymddangos yn oddrychol ac nid yw'n adlewyrchu'n gywir y lefel uchel iawn o ofal sy'n cael ei ddarparu o fewn y gwasanaeth," meddai.

Mae'r datganiad hefyd yn dweud eu bod nhw'n agored, yn dryloyw ac yn barod i weithredu ar ôl cael adborth adeiladol.

Dywedodd fod cynllun gwella a oedd yn rhoi "sicrwydd digonol" i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod gwelliannau a chynnydd yn cael eu gwneud i sicrhau diogelwch cleifion.

Mae'r ysbyty wedi derbyn canmoliaeth uchel o'r safonau ansawdd yn dilyn archwiliad sicrwydd ansawdd gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, meddai.

Ychwanegodd y datganiad ei fod yn gwrthod pob honiad yn erbyn y cwmni ond nad oedd yn gallu gwneud sylw ar achosion penodol oherwydd cyfrinachedd cleient a'i fod yn rhan o anghydfod cyfreithiol cyfredol.

Dywedodd fod Ysbyty Hillview yn parhau i fod yn un o'r gwasanaethau mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gleifion.

Pynciau cysylltiedig