Tân ar long o Iwerddon i Sir Benfro dros nos

  • Cyhoeddwyd
Siacedi achubFfynhonnell y llun, Stephen Kearney
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth pobl wisgo siacedi achub, yn ôl un oedd ar y llong, Stephen Kearney

Bu tân ar long oedd yn teithio o Rosslare yn Iwerddon i Harbwr Abergwaun, Sir Benfro nos Sadwrn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw gyntaf tua 21:25 wedi i dân gynnau yn ystafell yr injan.

Roedd 88 o deithwyr a 59 aelod o staff ar long Stena Europe.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau Abergwaun, roedd y llong tua dwy filltir forol o'r harbwr ar y pryd.

Fe gafodd timau achub o Dyddewi, Cei Newydd ac Abergwaun eu hanfon, yn ogystal â hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Roedd Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn rhan o'r digwyddiad, ynghyd â'r gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu.

'Barod i fod mewn cwch achub'

Cafodd y tân ei ddiffodd yn oriau man bore Sul, yn ôl y gwasanaeth tân, ac fe adawodd yr holl deithwyr y llong yn ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Stephen Kearney
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl swyddog a thîm achub yn rhan o'r digwyddiad

Roedd Stephen Kearney yn teithio ar y llong a dywedodd fod "mwg wedi dechrau amgylchynnu".

"Fe gafodd siacedi achub bywyd eu dosbarthu a fe wnaeth aelodau o staff helpu'r teithwyr.

"Roedd pobl, yn ddealladwy, yn nerfus... ond yn gofalu am ein gilydd.

"Yn amlwg roedd hi'n sefyllfa ddifrifol iawn ac ro'n ni'n paratoi i deulio amser mewn cychod achub.

"Yn ffodus, fe gafodd y tân ei ddiffodd a doedd dim angen hynny."

Ffynhonnell y llun, Sean Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Dŵr yn cael ei ddefnyddio yn Harbwr Abergwaun wedi'r tân

Wrth ddiolch i'r gwasanaethau am eu cefnogaeth, dywedodd cwmni Stena Line fod y llong "wedi ei dynnu o wasanaeth wrth i ni ddechrau ymchwiliad trylwyr i achos y digwyddiad".

Dywedon y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am deithiau yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Pynciau cysylltiedig