Cyhuddo dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn yr oeddent yn chwilio amdano mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz Waga wedi'i gyhuddo o fod â rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol.
Mae Artan Palluci, 31, a gafodd ei arestio yn Llundain yr wythnos ddiwethaf, wedi'i gyhuddo hefyd o dorri amodau mechnïaeth.
Bu'n ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa tan y bydd gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Mawrth.
Cafodd Tomasz Waga o Wlad Pwyl, ond oedd yn byw yn Essex, ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Westville, Pen-y-lan, ar 28 Ionawr, 2021.
Yn gynharach eleni cafodd tri dyn eu carcharu fel rhan o'r ymchwiliad i'w lofruddiaeth
Cafodd Josif Nushi a Mihal Dhana eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio ac fe gafodd Hysland Aliaj ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar am ddynladdiad.
Mae plismyn yn parhau i geisio dod o hyd i bumed dyn, sy'n cael ei amau o lofruddiaeth. Mae Elidon Elezi yn dod o Albania ac roedd yn byw ddiwethaf yn nwyrain Finchley yn Llundain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2021