2 Sisters 'ddim wedi gofyn am gymorth llywodraethau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Hynod siomedig' nad yw 2 Sisters wedi gofyn am gymorth

Mae'r gobeithion o arbed cannoedd o swyddi ar Ynys Môn yn pylu wedi iddi ddod i'r amlwg nad yw'r cyflogwyr wedi gofyn am gymorth gan un o'r ddwy lywodraeth.

Mae'n "warthus" nad ydy cwmni 2 Sisters wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru na'r DU am gymorth i ffatri prosesu cig ar Ynys Môn, medd undeb Unite Cymru.

Mae 730 o bobl yn wynebu colli eu swyddi ar ôl i'r cwmni gyhoeddi eu bwriad i gau'r safle yn Llangefni.

Mewn cyhoeddiad fis diwethaf, dywedodd cwmni 2 Sisters fod "yn rhaid gwneud newidiadau" oherwydd heriau'r sector cynhyrchu bwyd.

Yn sgil y cyhoeddiad, fe gafodd tasglu ei sefydlu mewn ymdrech i arbed y safle rhag cau.

'Syfrdanol'

Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru: "Mae'n syfrdanol ac yn warthus bod 2 Sisters wedi methu â gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

"Mae'n ymddangos nad ydy 2 Sisters yn ymwybodol o'r effaith y bydd cau'r ffatri yn ei gael ar eu gweithlu ac ar Ynys Môn ei hun.

"Mae 2 Sisters yn gwmni proffidiol gyda sawl safle ar draws y DU - mae'n rhaid iddyn nhw ymddwyn mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 2 Sisters wedi bod yn rhedeg y ffatri yn Llangefni ers 2013

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni 2 Sisters nad oes modd sicrhau dyfodol y safle "be' bynnag yw'r gefnogaeth ariannol" a bod holl gynigion y tasglu wedi cael eu hystyried.

'Andros o siomedig'

Fore Sadwrn fe gadarnhaodd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn nad oedd y cwmni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU am gymorth.

"Fel yr undeb 'dan ni'n andros o siomedig hefyd ar y datganiad yna, ac efallai yn teimlo sut mae rywun wedi bod yn teimlo o'r cychwyn gyda'r sefyllfa.

"Does yna ddim cais swyddogol wedi mynd - gofynnwyd am wybodaeth bellach ond gafon ni ddim gwybod mwy na hynny.

"Glywon ni bod nhw wedi mynd i Gam Dau yn yr ymgynghoriad - hynny ydi cau y lle i lawr a thrafod hynny efo'r staff yn fa'ma.

"Ein blaenoriaeth ni rwan ydi'r staff yn fa'ma ac yn amlwg dyfodol y safle achos mae'n bwysig bod y cwmni yn sicrhau bod y safle yma er budd economaidd Ynys Môn.

"Os nad yw'r cwmni wedi cyflwyno unrhyw gynigion i'r ddwy lywodraeth. Dwi'm yn siŵr be arall allwn ni ei wneud," ychwanegodd Llinos Medi.

'Methu sicrhau dyfodol y safle'

Fore Sadwrn dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu 2 Sisters eu bod yn dal i barhau i gael sgyrsiau adeiladol gyda thasglu Llangefni a'u bod eisoes wedi egluro i randdeiliaid nad yw'r ffatri yn gynaliadwy ac na fydd modd datrys hynny be bynnag yw'r gefnogaeth ariannol.

"Ry'n hefyd wedi ystyried y dewisiadau eraill a gafodd eu cyflwyno gan bob aelod o'r tasglu ond yn anffodus oherwydd difrifoldeb y sefyllfa ry'n wedi methu dod o hyd i ateb a fydd yn diogelu dyfodol y safle.

"Ein ffocws nawr yw cydweithio gydag asiantaethau er mwyn cefnogi cydweithwyr a chwilio pob ffordd posib i'w helpu nawr ac wedi'r cyfnod ymgynghori."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth y tasglu, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn ac sy'n cynnwys 2 Sisters, Unite a phartneriaid allweddol eraill gyfarfod am yr eildro ddydd Gwener.

"Mae'r tasglu yn ceisio sicrhau y canlyniad gorau ar gyfer y gweithwyr a'r gymuned yn ehangach yn dilyn penderfyniad siomedig y cwmni i ddirwyn eu gwaith yn Llangefni i ben."