Cynhyrchu caws Caerffili unwaith eto yn y dref ei hun

  • Cyhoeddwyd
Deian Thomas a Huw Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi cymryd cryn amser i Deian Thomas a Huw Rowlands ddysgu sut i gynhyrchu caws Caerffili

Am y tro cyntaf ers degawdau mae caws Caerffili yn cael ei gynhyrchu unwaith eto yn y dref.

Mae dau ffermwr ifanc wedi bod yn gweithio ers tair blynedd i berffeithio'r caws ac maen nhw nawr yn dweud eu bod yn barod i ddechrau gwerthu eu cynnyrch.

Yn ôl Huw Rowlands, 26, a Deian Thomas, 39, y bwriad yw ailgynnau'r hen draddodiad o gynhyrchu caws traddodiadol yng Nghaerffili ei hun, a rhoi cyfle i ffermwyr llaeth ychwanegu gwerth at eu cynnyrch.

Yn wreiddiol roedd y caws yn cael ei gynhyrchu ar ffermydd yn ardal Caerffili. Roedd yn boblogaidd iawn gyda'r glowyr, ond fe ddaeth cynhyrchu caws i ben yng Nghaerffili yn 1995.

Er bod rhai cwmnïau'n dal i'w gynhyrchu yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o gaws Caerffili nawr yn cael ei gynhyrchu yn Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

O'r archif: Tegwen Evans yn cynhyrchu caws Caerffili yng nghefn un o dafarndai'r dref nôl yn 1986...

Disgrifiad o’r llun,

... a gweithwyr yn cynhyrchu'r caws enwog yn y dref yn 1958

Cynhyrchu caws Cymreig traddodiadol yw bwriad y cwmni newydd.

Dywed Huw Rowlands: "Mae blas ffres arbennig iawn, ddim yn rhy gryf, a tang bach o lemwn i'r caws yma.

"Mae lliw hufen golau arbennig iawn i'r caws yma ac fe fydd e hefyd yn cadw at yr ansawdd traddodiadol ac yn chwalu yn rhwydd iawn."

'Ry'n ni'n barod'

Mae'r uned lle mae'r caws yn cael ei gynhyrchu yng nghysgod Castell Caerffili, reit yng nghanol y dref.

Fe fydd hanes y dref a'r caws yn rhan bwysig o'u cynnyrch ac mae'r cwmni'n defnyddio hen ryseitiau traddodiadol, gydag ambell i ychwanegiad mwy cyfoes ar gyfer y caws.

Doedd dysgu sut i wneud caws ddim yn dasg hawdd i'r ddau, ond ar ôl blynyddoedd o waith caled a nosweithiau hwyr maen nhw nawr yn barod i ddechrau gwerthu eu cynnyrch.

"Roedd dysgu sut i neud y caws yn golygu lot o waith," dywed Deian. "Fe nethon ni y caws cynta' cyn Covid ond wedyn daeth y cyfnod clo ac fe wnaeth hynny, yn anffodus, arafu pethau.

"Ond nawr ry' ni wedi cyrraedd lle ni ishe bod. Mae'r blas yn ein plesio ni ac ry'n ni yn barod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwsmeriaid yn holi am gaws Caerffili wrth ymweld â siop Karen Evans ar stryd fawr Caerffili

Mae diddordeb mawr yn y fenter yn lleol - a chroeso i'r newyddion fod caws Caerffili i'w gynhyrchu unwaith eto yn y dref.

Yn ôl Karen Evans, perchennog siop grefftau Y Galeri ar y stryd fawr, mae'n "ffantastig" i'r ardal.

Mae'n dweud bod nifer fawr o'i chwsmeriaid, gan gynnwys twristiaid, yn dod i mewn yn gofyn am brynu caws Caerffili ac yn synnu o glywed bod y caws ddim yn cael ei gynhyrchu yn lleol mwyach.

'Cefnogaeth enfawr'

Y bwriad yw rhoi y blas o'r caws i'r cwsmeriaid cyntaf yn y misoedd nesaf.

"Mae yr holl beth wedi bod yn brofiad da," medd Huw. "Ma' pobol Caerffili tu ôl i'r stori yma ac ry'n ni wedi cael cefnogaeth enfawr."

Disgrifiad o’r llun,

Huw Rowlands a Deian Thomas

Wrth gychwyn y fenter, mae'r ddau ffermwr ifanc wedi bod yn dysgu mwy am eu hanes teuluol eu hunain hefyd, a'r ddau ohonyn nhw'n darganfod bod traddodiad gwneud caws yn eu teuluoedd.

"Roedd fy mam-gu a fy hen fam-gu yn gneud caws gan ddefnyddio llaeth oedd dros ben ar y fferm fan hyn yng Nghaerffili," meddai Huw.

"Mae'n bleser nawr i ddod â'r traddodiad o neud caws nôl i'r dref."

Pynciau cysylltiedig